Skip to Main Content

Mae cynghorau yng Ngwent yn rhybuddio trigolion sy’n derbyn gofal iechyd a chymdeithasol yn y gymuned y dylen nhw ddisgwyl newidiadau posibl yn eu cefnogaeth oherwydd galw mawr am wasanaethau a phrinder staff.  

Mae cyfuniad o’r symudiad i Lefel Rhybudd 0 COVID-19, sydd wedi arwain at geisiadau ychwanegol am ofal cymunedol, ynghyd â’r angen i staff gymryd gwyliau dros yr haf, wedi cynyddu’r pwysau ar wasanaethau gofal cymunedol ledled Cymru.  

Mae cynghorau yng Ngwent yn blaenoriaethu adnoddau o fewn timau ac yn rhedeg ymgyrchoedd recriwtio i ddelio â phrinder staff.  Serch hynny, mae’n bosibl y bydd yna rhai newidiadau i’r gefnogaeth y mae pobl yn ei derbyn, ac efallai bydd gofyn i deuluoedd gynorthwyo darparwyr gofal cymunedol  

Dywedodd Nick Wood, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cychwynnol, Cymunedol ac Iechyd Meddwl  Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan: “Rydym yn gweithio gyda’n partneriaid mewn gofal cymdeithasol i edrych ar bob cyfle i gefnogi pobl leol gyda’u hanghenion gofal parhaus, naill eu yn eu cartrefi neu drwy’r rhwydwaith sylweddol o ddarparwyr yn yr ardal. 

“Rydym yn cydnabod yr heriau anferth ar hyn o bryd gyda faint o staff gofal cartref sydd ar gael a’r galw cynyddol am ofal a chefnogaeth, ac rydym yn annog cymunedau i weithio gyda ni a’r timau gwasanaethau cymunedol. 

“Mae gwasanaethau o dan bwysau sylweddol ac mae hyn yn debygol o barhau yn y tymor byr a chanolig wrth i ni weithio gyda phartneriaid gofal cymdeithasol i gynyddu capasiti yn y gymuned a galluogi newidiadau yn y ffordd y mae gwasanaethau’n cael eu cyflenwi wrth i ni adfer ein hunain ar ôl pandemig COVID-19.” 

Os oes unrhyw un â diddordeb mewn gyrfa mewn gofal cymdeithasol, mae yna gyfleoedd am swyddi yn y sector. Am ragor o wybodaeth, ewch i  https://gofalwn.cymru neu wefan eich awdurdod lleol.