Skip to Main Content

Mae Cyngor Sir Fynwy, Ardal Harddwch Naturiol Eithriadol Dyffryn Gwy a Chynghorau Cymuned Dyffryn Gwy yn gofyn i breswylwyr ac ymwelwyr Tryleg, Penallt, Y Narth, Devauden, Tyndyrn, St Arvans, Llandogo, Llanisien a Catbrook i edrych ar gynigion ar gyfer Adroddiad Cam 2 Pentrefi Dyffryn Gwy wrth i’w gyfnod ymgynghori ddechrau.

Mae’r adroddiad, a gynhyrchwyd gan ARUP, yn rhoi strategaeth a chynllun gweithredu ar gyfer y pentrefi. Tyfodd y cynllun i ddechrau o broblemau am ddiogelwch ffyrdd a seilwaith pentrefi, fodd bynnag gan y sylweddolwyd fod y materion yn yn rhan o set llawer mwy cymhleth o heriau, cytunodd y cyngor, Ardal Harddwch Naturiol Eithriadol Dyffryn Gwy a’r cynghorau cymuned i ystyried y materion hyn yng nghyd-destun ehangach pentrefi a Dyffryn Gwy. Y canlyniad yw prosiect Pentrefi Dyffryn Gwy.

Caiff y rhai sy’n byw, gweithio ac ymweld â’r ardaloedd o fewn ardal yr adroddiad eu hannog i ddarllen yr adroddiad ac ymateb gyda’u barn, sylwadau a bwydo unrhyw awgrymiadau ychwanegol. Mae’r adroddiad a’r ymgynghoriad yn awr yn fyw a bydd yn rhedeg am 5 wythnos, yn dod i ben am ganol-nos ddydd Sul 12 Medi.

Mae’r wybodaeth ar y wefan (wye-valley-villages.virtual-engage.arup.com) yn cynnwys fideo cyflwyno byr gan y Cynghorydd Sara Jones, Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir Fynwy, dolenni i’r ymgynghoriad ac ‘ystafell ymgysylltu rhithiol’ a aiff ag ymwelwyr drwy’r astudiaeth Cam 2, yn cynnwys y cynigion a gafodd eu datblygu ar gyfer pob un o’r wyth pentref yn Nyffryn Gwy – Tryleg, Penallt, Y Narth, Devauden Tyndyrn, St Arvans, Llandogo, Llanisien a Catbrook.

Mae copïau papur o Adroddiad Cam 2 Pentrefi Dyffryn Gwy ar gael yn Gymraeg neu Saesneg drwy gysylltu â’r cyngor drwy e-bost – contact@monmouthshire.gov.uk – neu drwy ffonio 01633 644644.