Skip to Main Content

Mae Jack Rutter, peldroediwr gyda Team GB yn y Gemau Paralympaidd, yn defnyddio ei stori ysbrydoledig i gymell a chael disgyblion i symud yn Ysgol Gynradd Brynbuga fel rhan o’r rhaglen ‘Chwaraeon i Ysgolion’. Mae’r rhaglen yn anelu i gael athletwyr proffesiynol i ysgolion i rannu eu brwdfrydedd dros chwaraeon, hyrwyddo ffordd iach o fyw ac ysbrydoli disgyblion i oresgyn heriau, i gyd tra’n codi arian i gefnogi cyfleusterau chwaraeon yr ysgol.

Roedd bryd Jack ar ddod yn bêl-droediwr proffesiynol nes iddo ddioddef anaf difrifol i’w ymennydd yn dilyn ymosodiad diachos. Ar ôl blynyddoedd o waith caled ac adsefydlu, mae Jack ers hynny wedi bod yn gapten tîm Parlys yr Ymennydd Lloegr, a dan ei arweinyddiaeth, daeth yn 5ed yng Ngemau Olympaidd Rio 2016. Fel rhan o’r rhaglen Chwaraeon i Ysgolion, mae Jack yn un o dros 40 o athletwyr proffesiynol sy’n cyflwyno disgyblion i gylch ffitrwydd hwyl, gan annog disgyblion a staff i fod yn fwy actif. Ddydd Llun 5 Gorffennaf roedd cylch ffitrwydd Jack yn cynnwys yr holl blant yn Ysgol Gynradd Brynbuga, gyda chyfarfod ysbrydoledig wedyn yn esbonio stori ei fywyd ac yn croesawu cwestiynau gan y disgyblion.

Dywedodd y Cynghorydd Paul Pavia, aelod cabinet dros Addysg ar Gyngor Sir Fynwy: “Rwyf yn hynod falch y gallodd Jack ddod i Ysgol Gynradd Brynbuga heddiw i rannu stori ei fywyd gyda’r plant. Mae’r stori yn ysbrydoliaeth, ac rwy’n credu ei bod yn dangos, oes oes gennych agwedd feddyliol gadarnhaol, y gallwch gyflawni beth bynnag a ddymunwch, sef yn union yr hyn mae’r disgyblion hyn ei angen ar ôl 16 mis heriol yn delio gyda’r pandemig. Mae’n sicr fod Jack wedi cael yr holl blant i weithio’n galed y bore yma.”

Mae’r rhaglen Chwaraeon i Ysgolion wedi codi dros £4 miliwn i gyllido offer chwaraeon newydd ar gyfer ysgolion cynradd ar draws y Deyrnas Unedig, yn ogystal â rhoi cyllid tuag at i Athletwyr GB i hyfforddi ar gyfer Gemau Olympaidd a Pharalympaidd.

Mae mwy o wybodaeth ar raglen Chwaraeon i Ysgolion ar gael yn: School Fundraising Ideas | School Sports Equipment (sportsforschools.org)