Skip to Main Content

Mae llyfrgelloedd Sir Fynwy yn gwahodd pob plentyn rhwng 4 ac 11 oed i ddod yn Arwyr y Byd Gwyllt yr haf hwn. Mae Sialens Ddarllen yr Haf eleni yn ymwneud â natur, llyfrau anhygoel, gwobrau hyfryd, a digon o syniadau ar gyfer gofalu am ein hamgylchedd.  Mae’n rhad ac am ddim ac yn hawdd iawn cymryd rhan.

Mae angen i blant gofrestru yn eu llyfrgell agosaf, lle byddant yn derbyn map plygu o Wilderville er mwyn cadw cofnod o’u taith Sialens Ddarllen yr Haf.  Wrth i blant ddarllen llyfrau llyfrgell o’u dewis eu hunain, maent yn casglu sticeri arbennig i gwblhau eu map.

Er mwyn cwblhau’r sialens, mae angen i blant ddarllen pedwar llyfr llyfrgell yn ystod gwyliau’r haf. Bydd pob plentyn sy’n cwblhau’r Sialens yn llwyddiannus yn derbyn gwobrau hyfryd gan gynnwys tystysgrif, medal Arwyr y Byd Gwyllt a bag pecyn Arwyr y Byd Gwyllt. 

Nod yr her yw annog plant i gasglu llyfrau newydd a mwynhau darllen, yn enwedig dros wyliau hir yr haf lle gall ansawdd darllen plant gymryd ‘cam yn ôl’. Bob blwyddyn, mae Sialens Ddarllen yr Haf yn annog plant i barhau i ddarllen ac i ddarganfod llyfrau newydd gwych.

Mae Sialens Ddarllen yr Haf yn cael ei chynhyrchu gan yr Asiantaeth Ddarllen, mewn partneriaeth â WWF UK, ac yn cael ei darparu gan lyfrgelloedd ledled y DU.  Mae Arwyr y Byd Gwyllt, Sialens Ddarllen yr Haf 2021 yn dechrau mewn llyfrgelloedd ar draws Sir Fynwy ddydd Sadwrn 10 Gorffennaf ac yn gorffen ddydd Sadwrn 18 Medi.

Gall plant hefyd gymryd rhan ar-lein yn https://cymru.summerreadingchallenge.org.uk/

Cysylltwch â’ch llyfrgell leol neu dilynwch Hybiau Cymunedol Sir Fynwy ar y cyfryngau cymdeithasol i gael rhagor o wybodaeth.