Skip to Main Content

Er mwyn sicrhau bod cymunedau’r sir yn parhau i fod yn gysylltiedig ac yn cael eu cefnogi, mae hybiau cymunedol Sir Fynwy yn cynnig ystod eang o weithdai dysgu oedolion wyneb yn wyneb yr haf hwn, gan gynnwys cyrsiau achrededig, megis rhifedd, llythrennedd a choginio, yn ogystal â chyrsiau heb eu hachredu fel ieithoedd, ffotograffiaeth, crochenwaith ac amrywiaeth o gyrsiau celf, ynghyd â llawer mwy. 

Ar agor yn gyntaf ym mis Mai, mae hybiau cymunedol Sir Fynwy bellach yn cynnig hwyl i rieni a phlant yn ystod yr haf. Wrth i’r sesiynau gyd-fynd â gwyliau’r haf, bydd yr hybiau cymunedol hefyd yn cynnal amrywiaeth o weithdai celf a chrefft i oedolion a phlant yn hybiau Brynbuga, Cil-y-coed, Cas-gwent a’r Fenni, fel y gall y rhai sydd â phlant ddod â nhw hefyd. Mae’r rhain yn cynnwys pasteli meddal, acrylig ar gynfas, celf sbwng oedolion a phlant, a llawer mwy.  Mae rôl hybiau cymunedol y cyngor yn bwysicach nag erioed yn ystod y pandemig er mwyn sicrhau bod cymunedau’r sir yn parhau i fod yn gysylltiedig ac yn cael eu cefnogi,. Yn ystod pandemig diweddar COVID-19, mae pob hyb cymunedol wedi gweithio’n galed i sicrhau bod canolfannau dysgu oedolion yn darparu amgylchedd dysgu diogel gyda mesurau priodol yn cael eu rhoi ar waith.

Dywedodd y Cynghorydd Paul Pavia, Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Addysg:  “Ar ôl 15 mis caled, rwy’n falch iawn o weld ein hybiau cymunedol yn rhoi cyfleoedd gwych i’r cyhoedd ddysgu sgiliau newydd haf eleni.  Mae’n ffordd wych o gael ymdeimlad o gymuned yn ddiogel eto, ac er bod y pandemig yn parhau, mae’r hybiau cymunedol yn gweithredu fel cymorth i gynnal iechyd meddwl pobl drwy gynnig dulliau cymorth, ac addysg bellach.”

Mae hybiau cymunedol Sir Fynwy ar hyn o bryd yn cynnig cyrsiau ar-lein drwy Zoom mewn 5 hyb (Cil-y-coed, Cas-gwent, y Fenni, Brynbuga, Trefynwy) lle mae amrywiaeth o offer TG ar gael i’w benthyg gan ddysgwyr sydd am ymuno â chyrsiau ar-lein ond sydd heb yr offer. Mae’r hybiau hefyd yn edrych ymlaen at gydnabod wythnos Dysgwyr Oedolion ar ddechrau mis Medi, drwy gynnal amrywiaeth o sesiynau blasu ar-lein ac wyneb yn wyneb ar gyfer llawer o gyrsiau diddorol.

Dyma’r cyrsiau achrededig mae’r hybiau cymunedol yn darparu dros haf 2021:

  • Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill
  • Rhifedd
  • Llythrennedd / Llythrennedd Digidol
  • Coginio


Dyma’r cyrsiau heb eu hachredu mae’r hybiau cymunedol yn darparu dros haf 2021:

  • Ieithoedd
  • Celf (celf gain, dyfrlliwiau, acrylig, olew, pastelau)
  • Crefft Siwgr
  • Gwehyddu Helyg
  • Crochenwaith
  • Ffotograffiaeth
  • Golygu lluniau
  • Ysgrifennu creadigol
  • Iaith Arwyddion Prydain
  • Cymorth Cyntaf Brys
  • Hylendid Bwyd
  • Gwnïo

I gael mwy o wybodaeth am gyrsiau hybiau cymunedol Sir Fynwy, ewch i:  Cyrsiau Wyneb yn Wyneb – Sir Fynwy