Skip to Main Content

Mae gofalwyr di-dâl yn Sir Fynwy wedi bod yn rhannu eu profiadau o ofalu am rywun annwyl ac wedi gwneud galwad i wneud gofalu’n weladwy ac yn werthfawr ar ddechrau Wythnos Gofalwyr 2021. Daw hyn wrth i Gyngor Sir Fynwy wahodd gwasanaethau iechyd a gofal, ysgolion, cyflogwyr a busnesau ar draws y gymuned i gydnabod y cyfraniad hanfodol a wneir gan ofalwyr di-dâl yn y sir.

Mae Wythnos Gofalwyr yn ymgyrch ymwybyddiaeth flynyddol sy’n dathlu gofalwyr di-dâl y DU, sy’n cefnogi aelodau o’r teulu a ffrindiau sy’n hŷn, sydd ag anabledd, salwch meddwl neu gorfforol.

Mae’r cyngor yn cefnogi’r ymgyrch drwy dynnu sylw at y gwaith aruthrol a wneir gan ofalwyr gyda chyfres o fideos a chynnwys cyfryngau cymdeithasol, sy’n cynnwys gofalwyr a’u hanwyliaid. Mae’r Parchedig Ganon Jeremy Harris yn un o gannoedd o ofalwyr di-dâl yn Sir Fynwy. Mae wedi rhannu ei stori o ofalu am ei fam sydd â chlefyd Alzheimer, mae’n rôl ofalgar y mae Jeremy yn ei gyflawni ochr yn ochr â’i waith fel Offeiriad yn Eglwys y Santes Fair ym Magwyr.

Mae’n gobeithio y bydd Wythnos Gofalwyr yn codi ymwybyddiaeth o gyfraniadau gofalwyr di-dâl a hefyd yn amlygu’r cymorth a’r gefnogaeth sydd ar gael.  Dywedodd: “Mae’n bwysig sicrhau bod y gofalwyr yn derbyn gofal ac yn cael cymorth, ac i sylweddoli bod help ar gael.  Mae’n bwysig ein bod yn cydnabod y rôl gofalu honno ac yn gofyn am yr help pan fydd ei angen arnom.”

Fel gofalwr ifanc, mae Amelie, sy’n 16 oed, yn cefnogi ei brawd ifanc Jacques sydd â Syndrom Down, ac a rannodd ei stori gyda Chyngor Sir Fynwy yn 2020. Er bod yna sawl her i fod yn ofalwr ifanc, mae Amelie yn awyddus i dynnu sylw at ba mor bwysig yw gofalwyr di-dâl ym mywydau’r bobl maen nhw’n eu cefnogi. 

Dywedodd Amelie:  “Un o fy hoff bethau am ofalu yw’r berthynas sydd gen i gyda fy mrawd, Mae’n fond na ellir ei wahanu. Rwy’n ei garu gyda phob rhan ohonof. Rwy’n credu ei bod yn bwysig siarad am ofalwyr ifanc a bod pobl yn cael gwybod beth mae gofalwyr ifanc yn gwneud oherwydd ein bod yn gwneud cymaint ag y mae gofalwyr cyflogedig, ac mae llawer nad yw pobl yn ei weld.”

Dywedodd y Cynghorydd Sirol Penny Jones, Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol, Diogelu ac Iechyd:  “Mae gofalwyr yn chwarae rhan hanfodol wrth gefnogi ein trigolion mwyaf agored i niwed ac mae’n bwysig ein bod yn cydnabod eu cyfraniadau, nid yn unig yn ystod Wythnos Gofalwyr, ond drwy gydol y flwyddyn.  Mae hefyd yn bwysig i’r rhai sydd mewn rolau gofalu wybod bod cymorth a chefnogaeth ar gael ac ni ddylai unrhyw un fyth deimlo ar ei ben ei hun wrth orfod gofalu am rywun annwyl.”

Ar gyfer elusen Wythnos Gofalwyr 2021 mae Carers UK yn ymuno ag Age UK, yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr, Cymdeithas Clefyd Niwronau Motor, Oxfam GB a sefydliad Rethink Mental Illness er mwyn helpu i godi ymwybyddiaeth o ofalu ledled y wlad.

Mae’r chwe elusen sy’n gyrru Wythnos Gofalwyr 2021 yn galw ar unigolion, gwasanaethau a sefydliadau i wneud eu rhan a Gwneud Gofalu’n Weladwy a Gwerthfawr – i gydnabod y cyfraniad a wneir gan ofalwyr a’u helpu i gael y cymorth ymarferol, ariannol ac emosiynol sydd ei angen arnynt i ofalu am rywun annwyl.

Mae cannoedd o weithgareddau’n cael eu cynnal ledled y wlad yn ystod Wythnos y Gofalwyr ac mae llawer o bobl wedi Ychwanegu eu Llais ar wefan yr Wythnos Gofalwyr i wneud gofalu’n weladwy eleni. I gael gwybod mwy am weithgareddau yn Sir Fynwy ewch i: https://www.carersweek.org/  Bydd straeon Amelie a Jeremy hefyd yn ymddangos ar dudalennau cyfryngau cymdeithasol Cyngor Sir Fynwy ar draws Wythnos Gofalwyr.