Skip to Main Content

Mae galw ar landlordiaid a pherchnogion eiddo i helpu i gefnogi ffoaduriaid a theuluoedd sydd angen cymorth o dan Raglen Adsefydlu Llywodraeth y DU.

Ar hyn o bryd mae’r cyngor yn chwilio am lety i’r teuluoedd hynny sydd wedi cyrraedd Sir Fynwy ac sydd angen cymorth ychwanegol.  Mae’r alwad newydd yn dilyn ymrwymiad parhaus y cyngor i gefnogi teuluoedd sy’n ffoaduriaid.

Gofynnir i landlordiaid a pherchnogion eiddo sydd ag unrhyw fath neu faint o lety gysylltu â Chyngor Sir Fynwy i gael gwybod mwy am fenter a’r manteision y gallent eu cael.

Dywedodd y Cynghorydd Lisa Dymock, aelod cabinet Cyngor Sir Fynwy ar gyfer Llesiant Cymunedol a Chyfiawnder Cymdeithasol:  “Mae’r rhaglen ailsefydlu yn eithriadol o bwysig, gan roi cymorth i deuluoedd nad ydynt bellach yn gallu aros yn eu gwledydd cartref.

“Er mwyn iddynt allu dechrau bywydau newydd, mae ein tîm Tai a Chymunedau yn gallu eu helpu i ddod o hyd i lety.  Ond, mae angen help perchnogion eiddo a landlordiaid preifat arnom hefyd – rydym ar hyn o bryd yn ceisio nodi llety o unrhyw faint neu fath, a byddem yn croesawu’r cyfle i siarad ag unrhyw un a allai fod â diddordeb i weithio gyda ni.

“Mae bod yn rhan o’r cynllun hwn yn cynnig nifer o fanteision, yn ogystal â’r wybodaeth eich bod yn helpu teulu i greu dyfodol newydd, mwy diogel – mae tenantiaid o dan y cynllun hwn yn cael eu cefnogi gan dîm o weithwyr cymorth, nid oes unrhyw gostau eiddo gwag, mae tenantiaethau yn rhai hirdymor ac mae eiddo bob amser yn cael eu dychwelyd yn yr un cyflwr, neu gyflwr gwell. Os oes gennych lety a allai fod yn addas ac yr hoffech gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â ni.”

Dylai unrhyw landlord neu berchenog eiddo sydd â diddordeb gysylltu â Lindsay Stewart, Swyddog Cyswllt y Sector Preifat i Gyngor Sir Fynwy ar 01291 635713.