Skip to Main Content
Rhai o ddisgyblion Blwyddyn 1 yn mwynhau Diwrnod Gwenyn y Byd.

Mwynhaodd ddisgyblion ac athrawon yn Ysgol Gymraeg Y Fenni ddiwrnod o gelf, crefft a dawns yn ymwneud â pheillwyr ddydd Iau 20fed Mai i nodi Diwrnod Gwenyn y Byd.  Hwn oedd y tro cyntaf i’r ysgol gynradd Gymraeg yn y Fenni ddathlu’r achlysur, ar ôl cael ei hysbrydoli gan lyfr a ysgrifennwyd gan un o’i hathrawon, Mrs Carys Glyn. Mae’r llyfr, Criw’r Coed a’r Gwenyn Coll yn egluro pwysigrwydd gwenyn yn yr eco-system.  Mae’n cyfeirio ychydig at greaduriaid chwedlonol y Mabinogion ac mae wedi helpu i gyflwyno disgyblion i’r materion sy’n ymwneud â newid yn yr hinsawdd.

Dywedodd Sarah Oliver, Pennaeth Ysgol Gymraeg y Fenni: “Rydym yn wirioneddol falch ein bod yn gallu addysgu ein plant, o oedran mor ifanc, ar bwysigrwydd yr ecosystem, o bwysigrwydd gwenyn a’r blodau gwyllt sydd eu hangen arnynt. Rydym hefyd wedi darganfod faint o’n rhieni sy’n wenynwyr, felly byddwn yn cynnal gweithdy cadw gwenyn o ganlyniad.”


Sarah Oliver, Pennaeth Ysgol Gymraeg y Fenni, ger murlun yr ysgol ‘Cofiwch y Gwenyn’.

Roedd y plant yn mwynhau gwisgo i fyny fel gwenyn, gwenynwyr a blodau wrth iddynt ddysgu am bopeth gwenynol gyda thasgau gan gynnwys labelu gwenyn, gwneud gwenyn papur, creu gludwaith gwenyn, darlunio gwenyn a blodau, paentio gwenyn mes ac yn bennaf oll – ac roedd y disgyblion mor gyffrous am hyn – dysgu Dawns y Gwenyn!  Disgwylir i Ddiwrnod Gwenyn y Byd ddod yn ddyddiad blynyddol yng nghalendr ysgol y Fenni.

Mae amseriad y digwyddiad yn addas, o fewn mis Mai Dim Torri Gwair.  Mae Cyngor Sir Sir Fynwy hefyd wedi ailddatgan ei ymrwymiad i dorri lleoedd gwyrdd cyhoeddus y sir yn ddetholus er mwyn annog blodau a phlanhigion gwyllt sy’n cefnogi peillwyr.  Mae’r sir yn fwrlwm o benderfyniad er mwyn helpu i wneud ein gerddi, ymylon ffordd a pharciau yn amgylcheddau peillio perffaith. 

Dywedodd y Cynghorydd Paul Pavia, Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Addysg: “Mae’n hyfryd gweld y ffotograffau o ddigwyddiad heddiw.  Hoffwn longyfarch staff addysgu a disgyblion Ysgol Gymraeg y Fenni am eu holl greadigrwydd ac am eu brwdfrydedd diderfyn dros ddysgu am bwysigrwydd gwenyn a’r amgylchedd.   Da iawn bawb!”

Mae ymgyrch Diwrnod Gwenyn y Byd yn tynnu sylw at negeseuon allweddol ar gyfer pob cenhedlaeth.  Er enghraifft, codi ymwybyddiaeth mai cyfraniad mwyaf gwenyn a pheillwyr eraill yw peillio bron i dri chwarter y planhigion sy’n cynhyrchu 90% o fwyd y byd.  I gael mwy o wybodaeth am y digwyddiad blynyddol, ewch i worldbeeday.org