Skip to Main Content

Pe baech yn cwrdd â S, pwy fyddech yn ei gweld? Efallai y byddwch yn gweld person ifanc sy’n hoffi gwneud ei gwallt a’i cholur, menyw ifanc sy’n wych yn coginio, ac sydd wrth ei bodd yn mynd am goffi neu i far ewinedd. Efallai y gwelwch fenyw ifanc sy’n ddoniol, yn garedig ac yn ofalgar ac y mae treulio amser gyda ffrindiau a theulu’n bwysig iawn. Efallai y byddwch yn gweld rhywun sydd wrth ei bodd yn nofio ac yn dianc i’w cherddoriaeth ac sy’n mwynhau gwylio ffilm Disney dda.

Pe baech yn cwrdd â S, yr hyn na welwch efallai yw ei bod wedi wynebu llawer o heriau yn ei bywyd ifanc, person ifanc sydd wedi gorfod bod yn annibynnol o oedran ifanc iawn, sydd wedi gorfod coginio a gofalu am ei brodyr a’i chwiorydd iau.  Efallai na wyddoch, oherwydd ei phrofiadau, ei bod yn aml yn bryderus a bod angen sicrwydd a chefnogaeth arni gan y bobl sy’n gofalu amdani.

Mae Maethu Sir Fynwy yn gobeithio dod o hyd i ofalwyr y gall S ddysgu ymddiried ynddynt a phwy fydd yn dysgu ymddiried ynddi hefyd, a fydd yn ei helpu hi i gyflawni ei photensial ac a fydd yn teimlo’n falch ohoni hi a’i chyflawniadau.

Mae S yn cael cefnogaeth oddi wrth MyST, sy’n dîm cymorth therapiwtig iawn sy’n gweithio gyda S ac yn ei helpu i oresgyn ei hofnau a’i phryderon. Mae S yn datblygu perthynas gadarnhaol gyda’r tîm sy’n darparu lefel uchel o gymorth i S a’i gofalwyr maeth.

Oherwydd ei phrofiadau cynnar nid yw S bob amser wedi ei chael hi’n hawdd meithrin perthnasoedd ymddiriedus, ac oherwydd hyn efallai y gwelwch ar adegau wraig ifanc sy’n ymddangos yn ddig, ond mae hi’n berson ifanc sy’n ysu i gael ei charu. Mae S wir eisiau teimlo bod pobl yn gofalu amdani, yn ei gwerthfawrogi ac yn ei chornel hi ac sy’n ceisio deall yr hyn y mae wedi’i brofi.  Mae hi eisiau gwybod ei bod hi’n bwysig i rywun; i deimlo’n sefydlog yn rhywle lle mae’n teimlo y gall berthyn, gyda phobl a fydd yn ei helpu i ddatblygu i’r fenyw ifanc anhygoel y mae’n tyfu i fod, ac yn cerdded wrth ei hochr drwy gydol y daith hon.

Felly, beth amdanoch chi?  Allech chi fod yn rhywun a allai wneud i S deimlo ei bod hi’n bwysig?  A allech chi fod yn rhywun sydd â’r amser, yr amynedd a’r argaeledd y gallai S ymddiried ynddynt i’w chefnogi wrth iddi ddod yn oedolyn ifanc a llywio’r cyfrifoldebau o dyfu i fyny? Allech chi ddarparu cartref lle gallai S deimlo’n ddiogel ac nid dim ond yn derbyn gofal ond bod pobl yn wir gofalu amdani? Byddech yn cael hyfforddiant, cymorth pob awr o’r dydd a thaliad ariannol i’ch helpu i wneud hyn. Allech chi fod y person i wneud y gwahaniaeth hwn?

Gan siarad am S, dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol, Diogelu ac Iechyd, y Cynghorydd Penny Jones:  “Mae S wedi profi colled sylweddol, trawma a lleoliadau yn chwalu yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac er gwaethaf hynny mae’n parhau i wneud cynnydd yn ei llwybr academaidd.  Mae hi’n wraig ifanc ddisglair a deallus iawn ac fel pob person ifanc, mae angen sefydlogrwydd ac arweiniad amgylchedd teuluol cariadus a chefnogol ar S i’w helpu i adnabod a chydnabod ei chryfderau.

“Mae S yn gofyn am ofalwr a fydd yno iddi, gan ei hannog a gwneud iddi deimlo’n bwysig.  Mae angen gofalwr ar S sy’n gallu blaenoriaethu ei hanghenion a dangos iddi ei fod wedi ymrwymo i’w chefnogi hi ym mhob agwedd ar ei bywyd. Os gallech chi fod y person hwn ym mywyd S, cysylltwch â Maethu Sir Fynwy heddiw.”

Bydd gofalwyr maeth therapiwtig Mhyst yn cael cymorth a hyfforddiant rhagorol, yn ogystal â chyflog.  I gael mwy o wybodaeth ewch i: https://www.monmouthshire.gov.uk/cy/maethu/ neu ffoniwch 01873 735950