Skip to Main Content

Mae prosiect Gofodau Natur Cymunedol yn gweithio i ddod â chymunedau ynghyd ac adfywio caeau chwarae nad ydynt yn cael eu defnyddio neu’n boblogaidd a’u gwneud yn ardaloedd chwarae hygyrch sy’n hybu natur. Gwahoddwyd preswylwyr a rhanddeiliaid i gymryd rhan mewn ymgynghoriad cyhoeddus ym mis Chwefror ac erbyn diwedd mis Mawrth roedd Cyngor Sir Fynwy a’r ymgynghorwyr Pegasus wedi derbyn mwy na 130 ymateb. Nawr, mae’r cyngor yn gofyn i breswylwyr Stad Rockfield yn Nhrefynwy am eu sylwadau unwaith eto er mwyn cwblhau cynlluniau ar gyfer naw safle ar draws y gymuned.

Mae’r cyfnodau clo diweddar wedi cadarnhau pwysigrwydd cael amrywiaeth o ofodau awyr agored ansawdd da sy’n hygyrch i bawb, fel y gallant dreulio amser yn ddiogel yn yr awyr agored yn profi’r hyn sydd gan natur i’w gynnig mewn cymdogaethau lleol.

Mae’r syniadau a ddaw o fewn cwmpas Gofodau Natur Cymunedol yn cynnwys tyfu bwyd cymunedol, coed ffrwythau a pherllannau bach, ardaloedd dad-ddofi tir a chreu dolydd bach ar domennydd a llethrau ar gyfer chwarae gwyllt ac annog peillwyr a meithrinfeydd coed cynhenid a phlannu ar gyfer peillwyr.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Fynwy: “Fe hoffem ddiolch o galon i bawb sydd wedi cymryd rhan hyd yma – mae’r cynlluniau manwl a luniwyd gan yr ymgynghoriad ar gael yn awr ar wefan Gofodau Natur Cymunedol (monnaturespaces.co.uk). Hoffem glywed yn awr gan breswylwyr lleol a grwpiau fyddai â diddordeb mewn cymryd mwy o ran yn y prosiect wrth iddo symud ymlaen, neu mewn agweddau penodol o’r prosiect, tebyg i dyfu bwyd cymunedol. Mae’r pwyslais ar gymuned yn allweddol i’r prosiect hwn ddod i ffrwyth yn llwyddiannus.”

Mae’r cynlluniau manwl yn dangos dymuniadau presennol y cyngor ar gyfer y safleoedd, y cynhelir ymgynghoriad cyhoeddus arnynt. Mae Cyngor Sir Fynwy wedi sicrhau cyllid i gyflwyno prosiect Gofodau Natur Cymunedol yn ystod blwyddyn ariannol 2021/22. Yn ychwanegol, cynhelir ymgynghoriadau ar wahân ar y meysydd chwarae yn Hendre Close, Goldwire Lane a King’s Fee yn Nhrefynwy, a gaiff i gyd eu gwella ar gyfer chwarae, mwynhad a bywyd gwyllt.

Bu Cyngor Sir Fynwy yn gweithio mewn partneriaeth gyda Chyngor Tref Trefynwy, Trosiant Trefynwy, ACE (Gweithredu ar Argyfwng Hinsawdd), Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gwent, Canolfan Gymunedol Rockfield, yr ysgolion lleol a Cyfoeth Naturiol Cymru, yr ymgynghorwyr Grŵp Pegasus a phreswylwyr i ddatblygu Gofodau Natur Cymunedol er budd cymunedau lleol mewn gwahanol leoliadau, yn Nhrefynwy i ddechrau.

Caiff cyllid Lleoedd Lleol ar gyfer Natur ei weinyddu gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru ar ran Llywodraeth Cymru.