Skip to Main Content

Mae Cyngor Sir Fynwy yn annog preswylwyr i fod yn wyliadwrus ar ôl derbyn adroddiadau am negeseuon e-bost diofyn sy’n cynnig ad-daliadau treth gyngor. Mae’n debyg bod y neges, sy’n honni ei bod yn dod o Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi, yn dweud wrth ddeiliaid tai bod ganddynt ad-daliad sy’n weddill ac yn eu hannog i glicio ar ddolen. Hoffai tîm Refeniw Sir Fynwy gadarnhau nad yw’n ohebiaeth swyddogol gan y cyngor a dylai preswylwyr fod yn ofalus cyn rhoi unrhyw fanylion i drydydd parti.  Bu’n rhaid i’r cyngor gyhoeddi rhybuddion tebyg yn ddiweddar pan ddisgrifiodd trigolion dderbyn galwadau ffôn yn eu cynghori bod ganddynt hawl i gael ad-daliad ar eu bil treth gyngor. 

Os byddwch yn derbyn unrhyw ohebiaeth ynglŷn â’ch treth gyngor a’ch bod yn pryderu y gallai fod yn dwyllodrus, cysylltwch â Chanolfan Gyswllt y cyngor ar 01633 644644 neu drwy wasanaeth Fy Sir Fynwy ar ei wefan.

I gael cyngor am sgamiau a sut i’w hosgoi, mae Llinell Gymorth Defnyddwyr Cyngor ar Bopeth hefyd yn ffynhonnell wybodaeth ddefnyddiol.  Gallwch eu ffonio ar 08082 231 133 neu ymweld â https://www.citizensadvice.org.uk/cymraeg/Defnyddwyr/get-more-help/if-you-need-more-help/