Skip to Main Content

Cliciwch yma i weld ein Gweminar ar y Gronfa Adnewyddu Cymunedol

Mae Cyngor Sir Fynwy yn annog grwpiau busnes lleol, sefydliadau’r sector gwirfoddol a chymunedol a phrifysgolion/sefydliadau Addysg Uwch i wneud cais i Gronfa Llywodraeth newydd y DU sy’n cynnig gwerth £220miliwn i awdurdodau lleol ledled y DU ar gyfer 2021-22 yn unig. Mae Cronfa Adnewyddu Cymunedol y DU yn cynnig hyd at £3 miliwn i awdurdodau lleol unigol i gefnogi prosiectau cydweithredol, arloesol a fydd yn cyd-fynd â chynlluniau strategol hirdymor ar gyfer twf lleol, yn targedu pobl fwyaf anghenus ac yn cefnogi adnewyddu cymunedol.

Bydd angen i brosiectau fod yn beilot eu natur, a bydd y Gronfa yn darparu cyllid capasiti i helpu Sir Fynwy i baratoi ar gyfer cyflwyno Cronfa Ffyniant a Rennir y DU yn 2022.   Felly dylai prosiectau ddangos arloesedd drwy ddarparu gwasanaethau a chyflwyno dulliau darparu newydd a bydd angen eu cwblhau erbyn mis Mawrth 2022.

Mae’r cyngor yn gwahodd unrhyw un sydd â diddordeb yn y Gronfa newydd i ymuno â digwyddiad wedi’i ffrydio’n fyw ar ddydd Mawrth 27ain Ebrill am 4.30pm, pan fydd Cronfa Adnewyddu Cymunedol y DU yn cael ei hesbonio ymhellach a bydd cyfle i ofyn cwestiynau. I gofrestru ar gyfer y digwyddiad sy’n cael ei ffrydio’n fyw, dylai darpar ymgeiswyr gwblhau’r ffurflen fer ar wefan y cyngor.

Rhagwelir y bydd gan y Gronfa gyrhaeddiad eang ac y bydd o ddiddordeb i grwpiau busnes lleol, mudiadau’r sector gwirfoddol a chymunedol, Darparwyr Addysg Uwch a hyfforddiant sy’n dymuno cydweithio ar brosiectau peilot.  Mae’r Gronfa ar agor i geisiadau o ddydd Mercher 21ain Ebrill a bydd yn cau am 17:00 ar ddydd Gwener 14eg Mai.

Mae’r Gronfa wedi’i chynllunio i archwilio sut i fynd i’r afael â heriau lleol ac unigryw tra’n mynd i’r afael â phedair blaenoriaeth Buddsoddi’r DU:  Buddsoddi mewn sgiliau; Buddsoddi mewn busnesau lleol; Buddsoddi mewn cymunedau a lleoedd; Cefnogi pobl i gael gwaith. 

Buddsoddi mewn sgiliau – galluogi pobl i fanteisio ar gyfleoedd ac anghenion yn Sir Fynwy i ddiwallu anghenion yr economi werdd a digidol. Gall ceisiadau gynnwys hyfforddiant seiliedig ar waith, ailhyfforddi, uwchsgilio neu ailsgilio aelodau o’r gweithlu neu hyrwyddo sgiliau digidol.

Buddsoddi mewn busnesau lleol – cynyddu cyfle i bawb a chreu diwylliant arloesi drwy gydweithio rhwng addysg uwch a busnesau bach.   Ceisiadau i gefnogi entrepreneuriaid a busnesau i greu mwy o gyfleoedd gwaith i weithwyr presennol neu newydd, i ddatblygu eu potensial arloesi a chefnogi mesurau datgarboneiddio.

Buddsoddi mewn cymunedau a lle – bydd hyn yn ystyried cynigion prosiect i gyflawni prosiectau ynni net-sero a lleol; cyfleoedd i hyrwyddo adfywio a datblygu cymunedol a arweinir gan ddiwylliant; cefnogi’r sector preifat drwy gynyddu nifer yr ymwelwyr; gwella effeithlonrwydd a chydweithredu drwy gydgysylltu gwasanaethau cyhoeddus lleol i gynhyrchu gwell canlyniadau lleol; hyrwyddo cysylltedd gwledig a gwella hygyrchedd a chyfleoedd cymdeithasol, economaidd a diwylliannol i gymunedau gwledig, gan gynnwys seilwaith gwledig a gwyrdd.

Cefnogi pobl i ymgysylltu â gwasanaethau lleol – i’w cefnogi ar eu taith tuag at gyflogaeth drwy fynd i’r afael â rhwystrau lleol i ymgysylltu neu godi dyheadau i ddod o hyd i gyflogaeth gynaliadwy. Profi ymyriadau i wneud y mwyaf o effeithiolrwydd rhaglenni cyflogaeth sydd wedi’u hanelu at y rhai sydd bellaf o’r farchnad lafur.

Ceir rhagor o fanylion am y gronfa, i gofrestru ar gyfer y digwyddiad sy’n cael ei ffrydio’n fyw yma monmouthshire.gov.uk/cy/cronfa-adnewyddu-cymunedol-y-du/