Skip to Main Content

Disgwylir llanw uchel. Byddwn yn cadw golwg ar y sefyllfa ac, os oes angen, byddwn yn trefnu cau’r A466 drwy Dyndyrn am gyfnodau byr ar y dyddiadau ac amserau dilynol:

Dydd Mercher 28th Ebrill 2021 Rhwng 09:25 – 09:55 (oddeutu)

Dydd Mercher 28th Ebrill 2021 Rhwng 21:45 – 22:15 (oddeutu)

Dydd Lau 29th Ebrill 2021 Rhwng 10:05 – 10:35 (oddeutu)

Bydd y pwyntiau cau fel sy’n dilyn:

Cau Pen Gogleddol: Cyffordd Heol Tryleg

Cau Pen Deheuol: Cyffordd Royal George

Amcangyfrif yw amserau cau’r ffordd yn seiliedig ar yr amserau llanw a ragwelir. Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn monitro’r sefyllfa ac yn cyhoeddi Rhybuddion Llifogydd fel sydd angen. Dim ond dros dro y caiff ffyrdd eu cau a dim ond pan fo’r dŵr llanw yn llifo ar y briffordd. Bydd y ffordd yn ailagor cyn gynted ag mae’r dŵr wedi cilio o’r briffordd.