Skip to Main Content

Bydd prosiect tai newydd yn y Fenni yn cynnig llety sydd ei fawr angen ar gyfer pobl gydag anghenion iechyd meddwl neu anableddau dysgu, gan eu galluogi i aros yn eu sir enedigol. Mae hyn yn dilyn gwaith tîm gofal cymdeithasol oedolion y cyngor sir – mewn partneriaeth gyda Chymdeithas Tai Melin a’r elusen gofrestredig Pobl – i ddynodi angen na chafodd ei ddiwallu ar gyfer unigolion i dderbyn tai â chymorth yn eu bro.

Yn flaenorol bu’n rhaid i lawer o unigolion edrych am lety tu allan i’w sir ond mae darparu pum fflat yn Heol Henffordd yn cynnig cymorth ar y safle yn ystod llawer o’r dydd a chymorth cysgu-mewn dros nos.

Cynlluniwyd y llety i hyrwyddo annibyniaeth ac adferiad, gyda’r nod y bydd tenantiaid yn symud yn ôl i’w cartrefi eu hunain pan maent yn teimlo’n barod ac yn medru gwneud hynny.

Wrth siarad yn agoriad y safle ddydd Llun 8 Mawrth, dywedodd y Cynghorydd Penny Jones, aelod cabinet Sir Fynwy dros Ofal Cymdeithasol, Diogelu ac Iechyd: “Fe hoffwn i ddiolch i Tai Melin a Pobl am weithio’n agos gyda ni i gyflawni’r prosiect yma. Mae’n gyfle i ddod â phobl yn ôl yn nes at eu cymunedau eu hunain a bydd yn darparu llety yn y dyfodol ar gyfer pobl Sir Fynwy fel y gallant fyw’n annibynnol gyda’u drws blaen eu hunain ond gyda chymorth ar gael pan mae ei angen.”