Skip to Main Content

Cafodd Diwrnod Rhyngwladol Menywod – dydd Llun 8 Mawrth – ei nodi gan Gyngor Sir Fynwy drwy dynnu sylw at thema’r ymgyrch “Dewis Herio”. Bu nifer o fenywod ysbrydoledig y sir yn darlledu eu profiadau i staff drwy ffrwd byw ar-lein y cyngor – y Cwtsh Digidol – ac yn rhoi anogaeth i bawb lwyddo yn eu meysydd a chwestiynu rhwystrau.

Yn eu plith oedd Julie Boothroyd, Prif Swyddog Gofal Cymdeithasol ac Iechyd y cyngor a ddisgrifiodd sut y datblygodd ei gyrfa mewn oes o herio tybiaethau ac ystrydebau dwfn. Dewisodd astudio gwaith coed a darlunio technegol pan oedd yn 14 oed yn hytrach na gwyddor tŷ ac yn ddiweddarach fel gweithwraig gofal ifanc cwestiynodd y ffordd yr oedd pobl yn cael eu trin yn y sector. Dywedodd Julie: “Mae Diwrnod Rhyngwladol Menywod yn rhoi cyfle i ystyried cyfraniad menywod at gymdeithas, sut ydym yn sicrhau ein bod yn parhau i gyfrannu a herio a sut yr awn ati i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb.”

Amlinellodd Emma Jackson, rheolwr Technoleg Gwybodaeth Sir Fynwy, sut y caiff tîm digidol y cyngor ei arwain gan fenywod, gan ddangos sut mae Sir Fynwy yn groes i duedd y diwydiant o sector digidol lle mae dynion yn y prif swyddi.

Hefyd yn cymryd rhan oedd Maddy Davies, 21 oed, o’r Fenni. Mae Maddy yn gystadleuydd crefftau ymladd brwd sydd wedi cynrychioli Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad ac sy’n awr yn berchen academi cicfocsio lwyddiannus yn ogystal â dilyn gradd yn y gyfraith tra’n cael ei chyflogi’n llawn-amser gyda chwmni logisteg. Amlinellodd Maddy ei phrofiad i lwyddo a’i phenderfyniad i herio ystrydebau tra’n torri drwy rwystrau ar sail rhyw.

Nododd y cyngor y diwrnod hefyd drwy gydnabod cyfraniadau rhyfeddol menywod ar draws Sir Fynwy ar ei sianeli cyfryngau cymdeithasol gyda’i negeseuon Facebook a Twitter. Yn eu plith oedd tîm Cyflogaeth a Sgiliau y cyngor a drydarodd eu cefnogaeth ar gyfer #DewisHerio.

Cynhaliwyd digwyddiadau digidol ar gyfer pobl ifanc ar draws y sir a gan aelodau My Mates, prosiect cyfeillgarwch y cyngor ar gyfer pobl gydag anableddau. Buont yn dathlu Diwrnod Rhyngwladol Menywod drwy gyfarfod Teams gan drafod menywod oedd wedi eu hysbrydoli a rhannu enghreifftiau go iawn o benderfyniad a dewrder, gan gyfeirio at sut mae’r menywod yn eu bywydau wedi defnyddio eu lleisiau i wella pethau.

Dywedodd y Cynghorydd Sara Jones, aelod cabinet Sir Fynwy gyda chyfrifoldeb am gydraddoldeb a gymerodd ran yn un o fideos y cyngor ar y cyfryngau cymdeithasol. Meddai: “Rwy’n dewis herio ar Ddiwrnod Rhyngwladol Menywod oherwydd mod i eisiau i fy merch, merched ifanc eraill a menywod yn gyffredinol i gael yr un cyfleoedd ag a gefais i. Rwy’n gofyn i bawb ddewis herio, beirniadu anghydraddoldeb yn eu cymunedau eu hunain a chefnogi pobl eraill i helpu sicrhau cymdeithas decach a mwy cyfartal.”