Skip to Main Content

Mae Cyngor Sir Fynwy wedi cymeradwyo strategaeth cyfiawnder cymdeithasol wedi ei diweddaru, y trydydd diwygiad ers mabwysiadu’r cynllun gwreiddiol yn 2018 ac a adolygwyd y flwyddyn ddilynol. O’r dechrau cyntaf, mae’r strategaeth wedi gyrru egwyddor cynnwys cyfiawnder cymdeithasol wrth galon holl waith y cyngor, a dros y tair blynedd ddiwethaf mae wedi cyflwyno rhaglen eang i helpu gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl leol drwy weithio mewn partneriaeth.

Mae cymdeithas gymdeithasol gyfiawn yn parchu hawliau ac urddas pawb yn gyfartal. Mae’n galluogi pobl i gymryd rhan lawn, ac yn sicrhau na chaiff cyfleoedd bywyd neb eu cyfyngu am resymau tu hwnt i’w rheolaeth bersonol.

Mae’r strategaeth wedi ei diweddaru yn cynnwys tri chynllun gweithredu neilltuol ac wedi’u targedu i sicrhau gwelliannau wrth drechu tlodi ac anghydraddoldeb, datblygu bwyd a gostwng digartrefedd. Mae’r cynlluniau hyn mewn ymateb i newidiadau cyflym a achoswyd gan agweddau negyddol pandemig cyfredol Covid 19 a byddant yn parhau nod y strategaeth i sicrhau ffyniant teg yn Sir Fynwy.

Dywedodd y Cynghorydd Sara Jones, aelod cabinet Sir Fynwy dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Datblygu Cymunedol: “Caiff y camau gweithredu yn y cynllun eu hymestyn dros y ddwy flynedd nesaf a thu hwnt, a bydd y cyngor yn gweithio law yn llaw gyda chymunedau lleol i gefnogi rhai o’n preswylwyr mwyaf bregus ac i barhau i sicrhau cymdeithas decach i bawb.”

Mae mwy o wybodaeth ar strategaeth cyfiawnder cymdeithasol Sir Fynwy ar gael yn:

https://www.monmouthshire.gov.uk/partnerships/social-justice/