Cydweithio i sicrhau Cyfrifiad 2021 llwyddiannus
Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol – sy’n rhedeg Cyfrifiad 2021 – yn gweithio gyda Chyngor Sir Fynwy i sicrhau cyfrifiad llwyddiannus a helpu gwasanaethau lleol i ddiwallu anghenion y dyfodol yn llawn.
Mae deall anghenion y genedl yn helpu pawb o lywodraeth ganolog i sefydliadau lleol fel cynghorau ac awdurdodau iechyd i gynllunio a chyllido gwasanaethau cyhoeddus ar draws Cymru a Lloegr. Mae allbynnau’r cyfrifiad yn sylfaen i ble caiff cyllid cyhoeddus ei wario ar wasanaethau fel trafnidiaeth, addysg ac iechyd – ar lwybrau seiclo, ysgolion a deintyddfeydd er enghraifft.
Bydd y cyfrifiad, a gynhelir ar 21 Mawrth 2021, yn bwrw goleuni ar anghenion gwahanol grwpiau a chymunedau a’r anghydraddoldeb sy’n wynebu pobl, gan sicrhau y caiff y penderfyniadau mawr sy’n wynebu’r wlad yn dilyn y pandemig coronafeirws a gadael yr Undeb Ewropeaidd eu seilio ar yr wybodaeth orau bosibl.
Dywedodd y Cynghorydd Paul Jordan, aelod cabinet Sir Fynwy gyda chyfrifoldeb am lywodraethiant a’r gyfraith: “Mae’r wybodaeth a gesglir o’r cyfrifiad yn helpu cynghorau i ddeall y gofynion am wasanaethau cyhoeddus hanfodol – fel cynllunio lleoedd ysgol neu’r galw am dai – drwy roi rhagolygon manwl gywir i ni o newid poblogaeth yn ein cymunedau. Bydd Cyfrifiad 2021 hefyd yn dylanwadu ar faint o arian a gawn gan y llywodraeth ganolog i helpu darparu gwasanaethau lleol, felly mae’n wirioneddol bwysig fod pawb yn Sir Fynwy yn ei lenwi.”
Bydd aelwydydd yn dechrau derbyn llythyrau gyda chodau ar-lein ym mis Mawrth yn esbonio sut y gallant lenwi eu cyfrifiad ar-lein. Gall pobl hefyd ofyn am holiadur papur os byddai’n well ganddynt lenwi’r cyfrifiad yn y dull hwnnw. Mewn ardaloedd lle disgwylir i lai lenwi’r cyfrifiad ar-lein, bydd 10% o aelwydydd yn derbyn ffurflen bapur draddodiadol drwy’r post. Mae digonedd o help ar gael, gyda phobl hefyd yn medru llenwi’r cyfrifiad dros y ffôn gyda chymorth gan staff wedi eu hyfforddi drwy ganolfan gyswllt am ddim y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol hefyd yn anelu i ddarparu cefnogaeth wyneb yn wyneb i lenwi’r cyfrifiad ar-lein drwy ganolfannau cymorth cyfrifiad, a gaiff eu lleoli yn hybiau cymunedol Sir Fynwy. Gellir trefnu apwyntiadau ar gyfer cymorth drwy ganolfan gyswllt y cyngor.
Dim ond ar ôl Diwrnod y Cyfrifiad y bydd prif waith maes y cyfrifiad yn dechrau, gan gysylltu â’r rhai nad ydynt wedi ymateb. Ni fydd byth angen i staff maes fynd i mewn i gartrefi pobl; byddant bob amser yn cadw pellter cymdeithasol, yn gwisgo cyfarpar diogelu cyhoeddus ac yn gweithio yn unol â holl ganllawiau’r llywodraeth. Byddant yn gweithredu yn yr un ffordd ag ymweliad dosbarthu post neu fwyd.
Bydd Cyfrifiad 2021 yn cynnwys cwestiynau am ryw, oed, gwaith, iechyd, addysg, maint aelwyd ac ethnigrwydd pobl. Ac, am y tro cyntaf, bydd cwestiwn yn gofyn i bobl p’un ai ydynt wedi gwasanaethu yn y lluoedd arfog, yn ogystal â chwestiynau gwirfoddol ar gyfer rhai 16 oed a throsodd ar gyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth rhywedd.
Bydd y canlyniadau ar gael mewn 12 mis, er y caiff cofnodion personol eu cadw dan glo am 100 mlynedd, gan eu cadw’n ddiogel ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Mae mwy o wybodaeth a chyngor ar sut i ateb y cwestiynau ar gael yn census.gov.uk.