Skip to Main Content

Mae Cyngor Sir Fynwy wedi bod yn gweithio’n gyflym i baratoi ar gyfer dychwelyd yr holl blant oedran y Cyfnod Sylfaen i ysgolion ar draws y sir gan gychwyn yr wythnos yn dechrau’r 22ain Chwefror, gyda’r rhan fwyaf o ysgolion yn agor o ddydd Mercher 24ain Chwefror. Mae darpariaeth ar gyfer dysgu wyneb yn wyneb ar waith ar gyfer plant sy’n agored i niwed, a darpariaeth gweithwyr hanfodol yng Nghyfnod Allweddol 2 drwyddi draw, ac ar gyfer plant y Cyfnod Sylfaen ar 22ain a 23ain Chwefror, yn dilyn hanner tymor. Anfonwyd llythyron at bob rhiant a gofalwr plant oedran ysgol yn cadarnhau’r cyhoeddiad diweddaraf.

Daw hyn wrth i Sir Fynwy weld gostyngiad cyson yn nifer yr achosion covid-19 newydd, sydd wedi bod mewn ffigyrau sengl yn ddyddiol.  Mae hyn o’i gymharu â ffigwr o tua 80 o achosion dyddiol yn weddol ddiweddar. Mae’r rhif ‘R’ hollbwysig, sy’n disgrifio pa mor gyflym y mae’r feirws yn lledaenu bellach yn is na 1.0 yng Nghymru, sef 0.7, gwelliant nodedig ond yn un na ddylid ei gymryd yn ganiataol wrth i’r frwydr barhau o ran lleihau trosglwyddo.

Dywedodd Aelod Cabinet Sir Fynwy dros Blant a Phobl Ifanc, y Cynghorydd Richard John:  “Er ein bod yn gweld gwelliannau parhaus yn y sefyllfa yma yn Sir Fynwy, ni allwn fforddio bod yn hunanfodlon.   Byddwn yn cynnal asesiadau risg cynhwysfawr ac yn gwirio bod yr holl fesurau ar waith i amddiffyn disgyblion a staff.   Mae’r cyfyngiadau cloi hyn wedi bod yn heriol iawn i blant ifanc a’u teuluoedd ac rwy’n cydnabod faint o groeso bydd o ran dychwelyd i’r ysgol ar gyfer disgyblion y Cyfnod Sylfaen.

“Byddwn yn gofyn yn gryf i bob rhiant gofio ymbellhau’n gymdeithasol wrth ollwng a chasglu plant o’r ysgol.   Gyda’r cynnydd sylweddol sy’n cael ei wneud i leihau trosglwyddo, mae angen i bob un ohonom barhau i wneud popeth posibl i helpu i gadw achosion Covid yn isel fel y gallwn barhau i agor ysgolion i ddisgyblion eraill.”

I gael y wybodaeth ddiweddaraf am ysgolion ewch i’n gwefan www.monmouthshire.gov.uk/cy a chliciwch ar ‘Addysg’ neu dilynwch y cyngor ar Twitter a Facebook @MonmouthshireCC