Skip to Main Content

Mae Cyngor Sir Fynwy wedi ymrwymo’n llawn i’w ddarpariaeth Gwasanaeth Antur Awyr Agored ac wedi cyhoeddi cynlluniau i ailddatblygu a buddsoddi yn ei safle yng Ngilwern.

Cytunodd y cyfarfod o aelodau’r Cabinet ddydd Mercher 3 Chwefror i raglen i godi safle Gilwern i’r safon gofynnol ar gost o £560,000. Bydd angen gwaith pellach i wella diogelwch y safle a llety i gynyddu archebion angen buddsoddiad ychwanegol o £300,000. Bydd y cyngor yn ymchwilio opsiwn i gyllido’r prosiect cyfalaf o werthiant ei safle ym Mharc Hilston ac yn y cyfamser, mae wedi comisiynu ymgynghorwyr i edrych ar gyfleoedd buddsoddi posibl.

Tarodd y pandemig coronafeirws yn galed ar Wasanaeth Antur Awyr Agored Sir Fynwy gyda safle Gilwern ar gau ym mis Mawrth 2020 a chanslo pob archeb am weddill y flwyddyn academaidd. Bydd y cyngor yn awr yn gweithio i ddarparu amserlen i gynnwys protocolau diogelwch COVID gan alluogi tripiau ac ymweliadau preswyl i ddychwelyd. Bydd y cynllun adfer yn gyntaf yn ceisio ailagor y safle a rhoi blaenoriaeth i ysgolion Sir Fynwy fwynhau archebion preswyl a dydd traddodiadol.  Bydd yr ail gam yn ailddechrau gweithio partneriaethau yn gweithio gyda gwasanaethau Sir Fynwy tebyg i’r rhai a gyflwynwyd gan y timau Plant gydag Anableddau ac Anghenion Dysgu Ychwanegol a bydd y trydydd cam yn canolbwyntio ar dull gweithredu mwy masnachol. Bydd hyn yn cynnwys dyddiau adeiladu tîm, cynlluniau cymhelliant staff a chynlluniau llesiant i sefydliadau allanol. Bydd y cyngor yn ymgynghori gyda phreswylwyr am y mesurau arfaethedig yn y dyfodol agos.

Dywedodd y Cynghorydd Richard John, aelod gyda chyfrifoldeb am MonLife ar Gabinet Sir Fynwy: “Ein huchelgais yw cynyddu potensial safle Gilwern i’r eithaf gyda gwasanaeth cynaliadwy sy’n gwasanaethu plant a phobl ifanc Sir Fynwy ac yn parhau’n hollol ymroddedig i ddarpariaeth dysgu ac addysg awyr agored. Mae’n helpu pobl ifanc gyda sgiliau arweinyddiaeth, adeiladu tîm a datblygu cymeriad, ac mae’n neilltuol o fanteisiol i bobl ifanc o gefndiroedd difreintiedig neu sydd mewn risg o gael eu hallgau o’r ysgol.”