Skip to Main Content

Mae Cyngor Sir Fynwy wedi llwyddo i sicrhau cyllid o raglen Teithio Llesol a Seilwaith Gwyrdd Llywodraeth Cymru i ddechrau ar waith gwella i Heol yr Eglwys yng Nghil-y-coed. Bydd y cynllun yn cychwyn ddydd Llun 15 Chwefror a bydd yn canolbwyntio ar gynorthwyo diogelwch cerddwyr, gwella mannau croesi a gwella’r fynedfa i’r castell a’r parc gwledig gerllaw.

Bydd y cynigion yn mynd i’r afael â nifer o broblemau yn cynnwys rheoli traffig a pharcio yn ystod amser mynd â phlant i’r ysgol a’u casglu oddi yno, gostwng cyflymder traffig, lledu’r llwybrau i wella’r amgylchedd ar gyfer cerddwyr a datblygu tramwyfa fwy deniadol drwy gyflwyno mwy o goed a phlanhigion. Bydd y prosiect hefyd yn datblygu’r ddolen rhwng canol y dref a Chastell a Pharc Gwledig Cil-y-coed er budd preswylwyr ac ymwelwyr.

Bydd y gwaith gan Alan Griffiths Contractors yn cychwyn ar 15 Chwefror – bydd y rhaglen yn dechrau yn Cross Close, a dilynir hynny gan waith ar y croesiad ysgol cyn i sylw droi at fynedfa i’r castell a’r parc gwledig.

A thybio y bydd cyllid gan Llywodraeth Cymru ar gael, bydd ail gam gwaith gwella Heol yr Eglwys yn mynd rhagddo yn 2021/22. Mae’r cynlluniau ac argraffiadau artist ar gyfer y ddau gam ar gael drwy: https://www.monmouthshire.gov.uk/caldicot-regen/church-road/?preview=true

Mae’r cynigion hyn yn rhan o gynlluniau adfywio ehangach i wella ardal Cil-y-coed ar gyfer busnesau, preswylwyr ac ymwelwyr. Dewiswyd Cil-y-coed yn 2018 fel blaenoriaeth y sir ar gyfer adfywio, gan ffurfio rhan o gynllun adfywio ehangach Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, a gwaith a gyllidwyd gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Sir Fynwy i’w wneud yn y flwyddyn ariannol hon. Mae’r cyngor yn gwneud cais i sicrhau mwy o gyllid grant i gwblhau cynllun Heol yr Eglwys yn 2021/22.

Dywedodd y Cynghorydd Jane Pratt, aelod cabinet dros Seilwaith a Gwasanaethau Cymdogaeth ar gabinet Sir Fynwy: “Rwy’n rhoi croeso mawr i’r newyddion y bydd gwaith yn dechrau’n fuan i wella Heol yr Eglwys a bydd y cynllun hwn yn ffurfio dolen bwysig o ganol y dref i’r castell a’r parc gwledig yn ogystal â gwella diogelwch.”