Skip to Main Content

Bydd Cyngor Sir Fynwy yn cynnal cyfres o sesiynau trafod a gwybodaeth ar-lein wedi’u hanelu at dyfwyr cymunedol bach, garddwyr marchnad, deiliaid rhandiroedd a ffermydd traddodiadol yn ogystal â busnesau sydd â diddordeb mewn defnyddio cynnyrch lleol. Yn cynnwys siaradwyr allweddol, cynhelir y sesiwn gyntaf am 4pm ddydd Iau 18fed Chwefror a bydd yn agor trafodaeth ar agweddau allweddol ar ddatblygu bwyd yn y sir. Cynhelir y cyfarfod drwy blatfform cyfathrebu Microsoft Teams.

Mae gan Sir Fynwy enw da haeddiannol am ei bwyd, ac mae digwyddiadau fel Gŵyl Fwyd y Fenni, nwyddau o’r ansawdd uchaf a bwytai o safon uchel yn ogystal ag allfeydd bwyd eraill ledled y sir yn dystiolaeth o’i statws.

Dylai busnesau a chynhyrchwyr, sydd â diddordeb mewn cymryd rhan yn y sesiwn gyntaf, gysylltu â Swyddog Datblygu Bwyd Gwledig Sir Fynwy, Deserie Mansfield – DeserieMansfield@monmouthshire.gov.uk – neu ffoniwch 07816 066046 erbyn hanner dydd ar ddydd Iau 18fed Chwefror.

Dywedodd y Cynghorydd Jane Pratt, aelod cabinet Sir Fynwy sy’n gyfrifol am gynaliadwyedd: “Mae Cyngor Sir Fynwy yn cydnabod y gwerth sydd gan fwyd ar iechyd a lles yn ogystal â’n heconomi leol. Rydym yn nodi ystod o gamau gweithredu a mesurau yn y gymuned a allai ddarparu cyfleoedd i wella parhad, cyfaint, ystod ac ansawdd cynnyrch a dyfir yn lleol.”