Skip to Main Content

Mae gweithwyr tiroedd a glanhau strydoedd Cyngor Sir Fynwy wedi casglu 460 kilogram o sbwriel mewn dim ond saith awr ar ochr ogleddol ffordd ddeuol yr A40 rhwng Rhaglan a Threfynwy. Gwnaed y gwaith yn ystod gwaith ffordd wedi’i drefnu yn yr wythnos yn dechrau ar 15 Ionawr yn cynnwys pedwar casglwr sbwriel a dau gerbyd.

Mae’r adran hon o’r A40 yn rhedeg wrth ochr yr Afon Trothi cyn iddi ymuno â’r Afon Gwy, felly gallai unrhyw sbwriel ar lan y ffordd fod o fewn taith fer i Aber Hafren a Môr Iwerydd. Mae poblogaeth ffyniannus o ddyfrgwn yn yr afon Trothi, ac er ei bod yn anodd gwerthfawrogi’r gynefin prysgwydd pan mae dan gymaint o sbwriel, mae’n gartref i rywogaethau dan berygl arbennig tebyg i’r pathew. Mae sbwriel yn cael effaith sylweddol ar y ddau rywogaeth eiconig yma yn ogystal ag achosi niwed i fywyd gwyllt yn gyffredinol.

Dywedodd y Cynghorydd Jane Pratt, Aelod Cabinet Seilwaith a Gwasanaethau Cymdogaeth: “Fel hyrwyddwr sbwriel lleol fy hun, rwy’n sylweddoli’r difrod y mae taflu sbwriel yn ei achosi i fywyd gwyllt a chynefinoedd. Mae sbwriel ar ochr y ffordd yn ddolur llygad ac nid yw’n anodd ei gadw yn eich cerbyd nes byddwch mewn rhywle i gael gwared ag ef ohono’n iawn. Mae’n heriol ac yn gostus i glirio sbwriel o ymyl ffyrdd ac mae’n adnodd a gaiff ei golli am byth o’r ffrwd ailgylchu.”

Ychwanegodd: “Mae faint o sbwriel a gasglwyd yn rhyfeddol o ystyried y bu helfa sbwriel ar y darn yma o ymyl y ffordd ychydig cyn y Nadolig, gyda llai o draffig oherwydd cyfnod clo y gaeaf. Mae’n arbennig o drist fod y broblem hon yn parhau ar ôl cymaint o gyhoeddusrwydd yn ddiweddar am effeithiau gwastraff ar yr amgylchedd.”

·         Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynllun atal sbwriel a thaflu sbwriel anghyfreithlon a gwahoddir preswylwyr i’w ddarllen a rhoi sylwadau arno: https://gov.wales/litter-and-fly-tipping-prevention-plan-wales