Skip to Main Content

Mae MonLife, gwasanaeth hamdden Cyngor Sir Fynwy, yn lansio cynllun newydd cyffrous yn cynnig cefnogaeth i bobl 60 oed a throsodd i ddod yn fwy egnïol yn gorfforol. Mae cynllun aelodaeth 60 Plus Fit4Life MonLife yn rhoi mynediad chwe mis rhad ac am ddim i ddosbarthiadau ar-lein i gynnwys yoga, pilates, tai chi ac ymarferion ysgafn gydag egwyl am sgwrs dros goffi rhithiol – ac yn cynnwys canllawiau a chymhelliant i helpu sicrhau cynnydd mewn ffitrwydd.

Ar-lein mae’r gwasanaeth ar gael ar hyn o bryd ond cyn gynted ag y bydd pedair canolfan hamdden y sir yn y Fenni, Cil-y-coed, Cas-gwent a Threfynwy yn ailagor, bydd cyfranogwyr yn derbyn un mis o aelodaeth am ddim gyda chynnig deniadol o ffi misol o £16. Yn ychwanegol, bydd MonLife yn rhoi pecyn cymorth yn cynnwys bandiau ymwrthedd, dymbel a mat ymarfer i’r 85 cyntaf sy’n ymuno.

Bydd MonLife yn uno gyda darparwyr hamdden eraill yng Nghymru i gyflwyno ei gynllun 60 Plus Fit4Life, a wneir yn bosibl diolch i gyllid gan Chwaraeon Cymru a Llywodraeth Cymru.

Dywedodd Sarah Powell, Prif Swyddog Gweithredol Chwaraeon Cymru: “Rydym eisiau i bobl yng Nghymru gael mwynhad gydol oes o chwaraeon a drwy weithio gyda phartneriaid i helpu darparu cynigion ychwanegol neu ategol sy’n anelu’n benodol i ddiwallu anghenion pobl dros 60 oed yn lleol gobeithiwn y byddwn yn gweld hyd yn oed fwy o unigolion o’r demograffeg hwn yn cadw’n heini neu’n dod yn heini.

“Dros y flwyddyn ddiwethaf bu’n rhaid i ni gyd feddwl hyd yn oed mwy am sut i gadw ein hunain yn iach, mae’n debyg mewn gwahanol ffyrdd i’r hyn a fyddem wedi ei wneud cyn y pandemig coronafeirws. Gwyddom fod bod yn gorfforol egnïol yn un ffordd i’n helpu i gadw’n ffit yn feddyliol ac yn gorfforol, ac yn ffordd wych i gysylltu gydag eraill. Felly rwy’n annog pobl i edrych drwy eu hawdurdod lleol am y gwahanol gyfleoedd sydd ar gael i’w helpu i wneud hyn.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Richard John, aelod cabinet Sir Fynwy gyda chyfrifoldeb am MonLife: “Bydd ein sesiynau 60 Plus Fit4Life yn cynnig cyfle i bobl dros 60 oed i ddod yn fwy egnïol yn gorfforol ac yn gymdeithasol gan y gwyddom pa mor bwysig yw hi i gadw’n iach, yn arbennig yn ystod y cyfnod anodd yma.

“Bydd ein staff ymroddedig yn cynnig cefnogaeth, cyngor ac arweiniad bob cam o’r ffordd i’n helpu i gadw ein cymhelliant. Byddwn yn parhau i gynnig dewis eang o raglenni ffitrwydd digidol ar gyfer pobl i gadw eu meddyliau a’u cyrff yn egnïol. Edrychwn ymlaen at groesawu’r cyhoedd yn ôl i gyfleusterau hamdden MonLife pan fydd amodau’n caniatáu hynny.”

I wneud cais am y cynllun cliciwch ar: https://bit.ly/2NLFKou