Skip to Main Content

Mae Cyngor Sir Fynwy wedi cytuno i alinio tâl ei brentisiaid gyda’r cyfraddau a osodwyd gan y Sefydliad Cenedlaethol Cyflog Byw. Cymeradwyodd aelodau’r Cabinet y newidiadau ar 3 Chwefror a chânt eu gweithredu o 1 Ebrill.

Mae’r penderfyniad i weithredu Cyflog Byw Gwirioneddol y Deyrnas Unedig yn dilyn cymeradwyaeth y Cyngor i’w Strategaeth Prentisiaid, Graddedigion ac Internau (AGI) ym mis Gorffennaf 2019, sy’n nodi sut y byddai’r cyngor yn darparu cyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant newydd ar gyfer y tair blynedd nesaf. Ymysg ei argymhellion oedd y byddai strwythur tâl cyson ar draws yr awdurdod i bob prentis. Mae gweithredu’r mesur yn golygu y bydd pob prentis, faint bynnag eu hoed neu gymhwyster, yn cael eu talu ar yr un gyfradd gan alinio graddfeydd tâl y Cyngor gyda chyfradd y Sefydliad Cenedlaethol Cyflog Byw.

Mae’r cyngor yn un o’r cyflogwyr mwyaf yn Sir Fynwy ac mae wedi  ymrwymo i ddatblygu a chefnogi prentisiaethau, swyddi i raddedigion a chyfleoedd intern ar draws y sefydliad, gan gydnabod y buddion sylweddol y maent yn eu rhoi i gyflogwyr a’r sawl a gyflogir.

Mae’r Strategaeth AGI yn galluogi gweithwyr cyflogedig newydd a phresennol i gyflawni eu potensial a chodi eu lefelau sgiliau i ddiwallu anghenion trefniadol yn ogystal â helpu i hybu cynhyrchiant yn yr economi lleol a Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd yn ehangach. Mae hefyd yn galluogi gwasanaethau’r cyngor i ymateb i heriau tebyg i boblogaeth sy’n heneiddio, newid hinsawdd, digideiddio a globaleiddio.

Daw’r penderfyniad yn sgil Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau 2021 – 8 i 14 Chwefror – sy’n anelu rhoi sylw i waith gwych prentisiaid a’u cyflogwyr ar draws y wlad. Ar hyn o bryd, mae’r cyngor yn cyflogi 18 prentis mewn amrywiaeth o wasanaethau gyda 118 o weithwyr cyflogedig eraill yn gweithio ar gyfer cymwysterau lefel uwch.

Dywedodd y Cynghorydd Phil Murphy, aelod cabinet gyda chyfrifoldeb am adnoddau dynol: “Rwy’n falch iawn fod y cyngor wedi cymeradwyo’r nod a osodwyd yn y Strategaeth AGI a bydd yn sicrhau ein bod yn rhoi tâl teg i’r prentisiaid am eu gwaith. Rydym yn darparu ystod eang o wasanaethau a rydym angen pobl o bob math o gefndir a diddordeb proffesiynol. Rydym eisiau buddsoddi yn eu sgiliau a’u profiad yn ogystal â rhyddhau eu talentau er budd ein cymunedau. Gall prentisiaeth fod y garreg gamu berffaith i lywodraeth leol a gosod staff ar lwybr gyrfa gwerth chweil a boddhaol iawn.”