Skip to Main Content

Bydd Cyngor Sir Fynwy yn cynnig ei chefnogaeth i ymgyrch yn erbyn creulondeb i gŵn. Mae’r ymgyrch yn galw am wahardd mewnforio cŵn gyda’u clustiau wedi tocio a chaiff ei harwain gan y Gymdeithas Milfeddygol Brydeinig (BVA).

Mae tocio clustiau yn driniaeth i dynnu rhan llipa clust ci, yn aml heb anesthetig na lleddfu poen, a chaiff ei wneud yn llwyr am resymau cosmetig i hyrwyddo delwedd ffyrnig. Ymhell o gynnig unrhyw fudd i’r cŵn, mae’r driniaeth mewn gwirionedd yn amharu’n ddifrifol ar eu lles. Mae’r driniaeth yn boenus ynddi ei hun, gan dorri drwy’r cartilag a gall gymryd wythnosau i wella, gan achosi poen bob tro y caiff rhwymynnau eu newid. Mae’r ci hefyd mewn perygl o gael eu heintio yn ystod y broses.

Mae tocio clustiau yn anghyfreithlon ym Mhrydain ond caiff cŵn gyda clustiau wedi’u tocio eu mewnforio o wledydd lle mae’r driniaeth yn dal yn gyfreithlon. Credir hefyd y caiff cŵn a fagwyd ym Mhrydain eu cludo dramor ar gyfer y driniaeth.

Mae’r RSPCA wedi nodi cynnydd enfawr o 236% yn nifer yr adroddiadau o docio clustiau a gawsant yn y pum mlynedd ddiwethaf. Gall y cynnydd mewn niferoedd fod wedi ei hybu gan y cynnydd mewn pobl enwog a dylanwadwyr ar y cyfryngau cymdeithasol yn dangos eu cŵn gyda’u clustiau wedi tocio ar lwyfannau fel Instagram, gan arwain at normaleiddio a glamoreiddio yr arfer anwaraidd hwn.

Galwodd swyddogion iechyd anifeiliaid Sir Fynwy am i aelodau’r cyhoedd roi gwybod i Crime Stoppers ar 0800 555111  am achosion o bobl yn tocio clustiau cŵn neu drefnu iddynt gael eu tocio dramor. Maent hefyd wedi cynghori milfeddygon y gallant hysbysu tîm iechyd anifeiliaid eu hawdurdod lleol am achosion. Dan God Ymddygiad Coleg Brenhinol y Milfeddygon, gallant dorri cyfrinachedd cleientiaid a datgelu gwybodaeth i’r awdurdod lle bernir bod angen hynny – yn cynnwys lle caiff lles anifeiliaid neu’r budd cyhoeddus ei wanhau, neu lle mae’r wybodaeth yn debygol o helpu wrth atal, canfod neu erlyn trosedd.

Dywedodd y Cynghorydd Sara Jones, aelod cabinet Sir Fynwy gyda chyfrifoldeb am ddiogelwch cymunedol: “Mae tocio clustiau cŵn yn drosedd erchyll a wneir am resymau hollol ddiangen. Rwy’n annog preswylwyr sy’n credu fod ci yn debygol o fod mewn risg i gysylltu â Crime Stoppers neu i ofyn am gyngor gan dîm iechyd anifeiliaid Sir Fynwy. Gadewch i ni wneud yr ymarfer erchyll hwn yn rhywbeth o’r gorffennol – lle mae’n perthyn.”