Skip to Main Content

Bydd Cyngor Sir Fynwy yn ymgynghori ar gynlluniau i annog natur i ffynnu o amgylch stad Rockfield yn Nhrefynwy. Mae’n dilyn grant o gronfa Lleoedd Lleol ar gyfer Natur Llywodraeth Cymru i gynnal astudiaeth sy’n rhoi rhan i breswylwyr wrth ddatblygu naw gofod natur a chynllunio gwelliannau ar gyfer natur mewn pedair ardal chwarae cymdogaeth ar draws Overmonnow.

Mae gofodau natur cymunedol yn cynnwys ardaloedd ar gyfer tyfu llysiau, blodau a choed ffrwythau a phlannu coed yn ogystal ag ailddofi ardaloedd i fod yn ddolydd bach, gan roi cyfleoedd i breswylwyr fwynhau natur ac i blant chwarae. Yn ogystal â rhoi buddion i breswylwyr, maent hefyd yn rhoi cynefinoedd gwerthfawr ar gyfer peillwyr a mathau eraill o fywyd gwyllt.

Mae’r cyngor wedi penodi ymgynghoriaeth amgylcheddol arbenigol Grŵp Pegasus i gynnal arolwg manwl o’r safleoedd, ymgynghoriad cyhoeddus, cynllunio a gwaith dylunio. Bydd yr astudiaeth hon yn galluogi gwireddu’r gofodau natur cymunedol yn ystod blwyddyn ariannol 2021/22, yn amodol ar gymeradwyaeth cyllid pellach gan Lywodraeth Cymru.

Mae’r prosiect yn debygol o gynnwys trawsnewid rhai o’r ardaloedd chwarae amwynder llai nad oes cymaint o ddefnydd arnynt i fod yn ofodau natur cymunedol. Yn y cyfamser, bydd y cyngor yn ehangu’r maes chwarae yn y gofod agored canolog yn ymyl Canolfan Gymunedol Rockfield i ddarparu ar gyfer plant o ystod oedran ehangach a darparu offer chwarae mwy hygyrch.

Dywedodd y Cynghorydd Jane Pratt, aelod cabinet Sir Fynwy gyda chyfrifoldeb am barciau a gofodau agored: “Ymysg gwersi’r pandemig a chyfnodau clo dilynol mae pwysigrwydd amrywiaeth o ofodau agored ansawdd da a hygyrch fel y gall teuluoedd ac unigolion dreulio gyda’i gilydd yn yr awyr agored yn profi natur ar garreg eu drws.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Richard John, aelod cabinet gyda chyfrifoldeb am fio-amrywiaeth: “Mae’r prosiect hwn yn gam arall ar daith y cyngor i wella amgylcheddau lleol a hybu peillwyr.”

Yn ogystal â chysylltu gyda phreswylwyr lleol, bydd y cyngor yn cynnwys rhanddeiliaid prosiect eraill yn cynnwys y Cynghorydd Sir lleol, Cyngor Tref Trefynwy, Trosiant Trefynwy,  ACE (‘Action on Climate Emergency’). Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gwent, Canolfan Gymunedol Rockfield a Chyfoeth Naturiol Cymru.

Mae holiadur byr am y prosiect ar gael ar y ddolen ddilynol: www.monnaturespaces.co.uk – hefyd , os oes unrhyw un yn dymuno rhoi sylwadau ar neu gymryd rhan yn y prosiect, gallant anfon e-bost at naturespaces@pegasusgroup.co.uk