Skip to Main Content

Mae Cyngor Sir Fynwy wedi cadarnhau y bydd gwaith diogelwch hanfodol yn cael ei wneud ym mis Ebrill er mwyn sefydlogi wyneb y graig uwchben yr A466 rhwng Llanarfan a Thyndyrn. Bwriedir i’r gwaith, i amddiffyn defnyddwyr y ffordd rhag cwymp creigiau peryglus, i ddechrau ar 6ed Ebrill 2021. Rhagwelir y bydd angen cau’r ffordd am bedair wythnos ar gyfer y prosiect, a fydd yn ymwneud â thynnu craig ymaith.  Yn dilyn y cyfnod hwn, disgwylir y bydd cyfnod pellach o bythefnos pan fydd un lôn ar gau, gyda goleuadau traffig yn rheoli’r teithio drwy’r rhan hon o’r ffordd.

Dywedodd y Cynghorydd Jane Pratt, Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Seilwaith:  “Mae’n hanfodol ein bod yn ymgymryd â’r gwaith diogelwch pwysig hwn mor effeithlon a chyflym â phosibl.  Rydym yn gwneud pob ymdrech i sicrhau bod y gwaith yn cael ei gychwyn ar ddechrau mis Ebrill a’i gwblhau yn yr amser byrraf posibl. Fodd bynnag, bydd yn amodol ar gymeradwyaeth derfynol gan Lywodraeth Cymru, a chontractwyr yn gallu bodloni’r adnodd sydd ei angen er mwyn cwblhau’r gwaith yn ddiogel oherwydd effaith bosibl COVID-19 ar eu gweithlu.

“Rydym wedi gorfod amseru’r gwaith i osgoi tarfu ar ystlumod tra byddant yn gaeafgysgu. Rydym yn deall yn iawn yr anghyfleustra y bydd cau’r ffordd yn ei roi i breswylwyr sy’n teithio drwy’r ardal, ond rhaid i ni wneud y gwaith hanfodol hwn er mwyn cadw defnyddwyr y ffordd yn ddiogel. Bydd gwyriad ar waith, a bydd manylion y rhain yn cael eu cyhoeddi’n eang yn nes at yr amser, ac rydym yn ddiolchgar i’r gymuned leol am eu hamynedd a’u dealltwriaeth.  Byddwn yn parhau i weithio gyda busnesau lleol i’w cefnogi yn ôl yr angen,” meddai’r Cynghorydd Pratt.

Bydd rhagor o fanylion am gau’r ffordd, gan gynnwys y llwybr dargyfeirio, ar gael ar wefan y Cyngor – www.monmouthshire.gov.uk/cy – cyn i’r gwaith ddechrau.