Skip to Main Content

Mae hybiau cymunedol Sir Fynwy wedi parhau ar agor drwy gydol cyfnod cyfyngiadau Lefel 4 presennol Llywodraeth Cymru i ddarparu gwasanaethau hanfodol, cyngor a chymorth. Mae gwaith hybiau cymunedol y cyngor, yn y Fenni, Cil-y-coed, Gilwern, Trefynwy, Cas-gwent a Brynbuga, yn bwysicach nag erioed yn ystod y pandemig er mwyn sicrhau fod cymunedau’r sir yn parhau wedi cysylltu ac yn cael eu cefnogi, naill ai drwy’r cyngor neu ei asiantaethau partner.

Mae hybiau cymunedol yn dod â gwasanaethau’r cyngor llyfrgell ac addysg oedolion ynghyd i greu un pwynt mynediad ar gyfer preswylwyr y sir. Er fod gwasanaethau addysg oedolion wyneb-i-wyneb a llawer o gyfleusterau’r cyngor wedi’u gohirio ar hyn o bryd, mae’r chwe hyb cymunedol yn dal ar agor ar gyfer busnes hanfodol y cyngor, cyrsiau ar-lein, Gofyn a Chasglu llyfrau llyfrgell yn ogystal â chownter swyddfa’r post ym Mrynbuga.

Dywedodd y Cynghorydd Paul Jordan, aelod cabinet Sir Fynwy gyda chyfrifoldeb am hybiau cymunedol y cyngor: “Mae ein hybiau cymunedol yn rhoi cysylltiad hanfodol ac agos i fusnes cyffredinol y cyngor yn ogystal â darparu gwybodaeth a chymorth pwysig. Tra bod y pandemig yn parhau, maent yn gweithredu fel cymorth i gadw iechyd meddwl pobl drwy gynnig dull o gefnogaeth.”

Mae mynediad i’r holl hybiau cymunedol yn ddibynnol ar gydymffurfio’n agos gyda mesurau pellter cymdeithasol i leihau lledaeniad feirws Covid-19 ond gall preswylwyr hefyd ddefnyddio cyfleusterau ar-lein, y ffôn neu e-bost i dderbyn gwasanaethau.

I gael mwy o wybodaeth, yn ogystal â manylion cyswllt, ar hybiau cymunedol Sir Fynwy, edrychwch ar: https://www.monmouthshire.gov.uk/community-hubs-and-libraries/ neu ymuno â thudalen Facebook yr hybiau cymunedol: www.facebook.com/MonHubs