Skip to Main Content

Bydd cartrefi a busnesau yng Nghwm Llanddewi Hodni yn Sir Fynwy ac ardal gyfagos Cwm Ewias yn derbyn cysylltiadau rhyngrwyd gwell dros y 14 mis nesaf diolch i grant i’r cyngor sir o Gronfa Band Eang Lleol Llywodraeth Cymru.

Bydd y prosiect yn galluogi cymunedau’r ardal i gysylltu gyda rhwydwaith newydd ffibr optig cymysg a diwifr gyda galluedd gigabit. Bydd pob preswylydd sy’n dewis cysylltu gyda’r rhwydwaith yn derbyn cysylltiadau rhyngrwyd gydag isafswm cyflymder lawrlwytho o 50 Mbps. Bydd y rhwydwaith newydd yn radd cariwr ac yn ei gwneud yn bosibl gwella cysylltedd ffôn symudol yr ardal yn y dyfodol.

Er bod Cwm Nant Hodni yn un o’r rhannau harddaf a phwysicaf yn hanesyddol yn y sir, bu hefyd yn un o’r rhai gyda’r cysylltiadau gwaelaf – mae cyflymder rhyngrwyd presennol yn araf ac ychydig o ddarpariaeth ffôn symudol sydd ar gael. Mae 30% o’r 122 adeilad yn y Cwm yn fusnesau – amaethyddol neu dwristiaeth yn bennaf – a bydd y ddarpariaeth band eang newydd yn hwb enfawr i breswylwyr, ymwelwyr a mentrau lleol.

Penodi cyflenwr fydd cam nesaf y cynllun yn dilyn derbyn y grant gan Lywodraeth Cymru. Mae cynlluniau i gwblhau’r rhwydwaith yn debyg o fod wedi gorffen erbyn  gwanwyn a disgwylir y cysylltiadau cyntaf yn gynnar yn yr haf. Er na roddwyd dyddiad ar gyfer cwblhau, disgwylir y cysylltiadau terfynol erbyn mis Mawrth 2022 – diwedd blwyddyn ariannol 2021/22.

Dywedodd y Cynghorydd Sara Jones, aelod cabinet Sir Fynwy gyda chyfrifoldeb am ddatblygu cymunedol: “Rwy’n falch iawn dros gymunedau Cwm Llanddewi Hodni a Dyffryn Ewias ac yn ddiolchgar iawn am y cyllid grant hwn. Hebddo, mae’n annhebyg y byddai gwell rhyngrwyd wedi ei gyflenwi gan ddarparwyr masnachol oherwydd topograffeg heriol yr ardal.   Er bod cysylltiadau gwael wedi bodoli ers peth amser, mae canlyniadau effaith pandemig Covid-19 wedi amlygu ei effeithiau negyddol, felly mae’r dyfarniad yn amserol ac yn newyddion gwych i breswylwyr, twristiaid a busnesau yr ardal.”

·       Mae mwy o wybodaeth ar gynllun band eang lleol Llywodraeth Cymru ar gael yn: https://gov.wales/local-broadband-fund