Skip to Main Content

Bydd gwasanaeth bws newydd rhwng Cas-gwent a Bryste a lansir yr wythnos hon yn ddolen hanfodol ar gyfer pobl sy’n teithio i’r gwaith, myfyrwyr a theithiau cymdeithasol. Dechreuodd gwasanaeth T7 Traws Hafren a weithredir gan Bws Casnewydd ddydd Llun 4 Ionawr a bydd yn rhedeg yn rheolaidd o Gas-gwent i ganol dinas Bryste heibio canolfan siopa Cribbs Causeway, saith diwrnod yr wythnos. Bydd gwasanaethau ychwanegol yn gynnar yn y bore a gyda’r nos yn cysylltu Magwyr a Chil-y-coed.

Pan ddaeth y gwasanaeth X7 i ben ym mis Mehefin 2020, lansiodd Cyngor Sir Fynwy a Llywodraeth Cymru wasanaeth Traws Hafren am gyfnod prawf a chafodd y llwybr ei roi allan i dendr yn yr hydref i sicrhau parhad hirdymor y ddolen bwysig rhwng De Cymru a Bryste. Mae’r contract a ddyfarnwyd i Bws Casnewydd yn rhedeg am bum mlynedd – buddsoddiad sylweddol gan Lywodraeth Cymru.

Bydd tocynnau ar gael wrth fynd ar y bws a drwy ap TrawsCymru. Gellir archebu seddi ymlaen llaw ar yr ap a bydd prisiau tocynnau yn aros yr un fath, yn cynnig gwerth am arian rhagorol yn arbennig ar gyfer y rhai sy’n teithio’n rheolaidd.

Dywedodd y Cynghorydd Jane Pratt, aelod cabinet Sir Fynwy gyda chyfrifoldeb am drafnidiaeth gyhoeddus: “Mae hwn yn wasanaeth rhanbarthol pwysig sy’n cynnig mynediad hanfodol ar gyfer y rhai sy’n teithio i’r gwaith, ar gyfer addysg neu ddarparu gwasanaethau yn ogystal â hybu twristiaeth a chysylltu ffrindiau a theuluoedd. Rydym yn ddiolchgar tu hwnt i Lywodraeth Cymru am fuddsoddi yn y gwasanaeth strategol hollbwysig yma.”

Ychwanegodd Scott Pearson, Rheolwr Gyfarwyddwr Trafnidiaeth Casnewydd: “Rydym yn falch iawn i gael ein dewis i redeg gwasanaeth newydd T7. Dyma wasanaeth cyntaf TrawsCymru i’r cwmni ei weithredu ac felly rydym yn edrych ymlaen at ddatblygu’r gwasanaeth i fod y gorau y gall fod ar gyfer ein cwsmeriaid. Mae hon yn garreg filltir bwysig i Bws Casnewydd a gobeithiwn ddangos ein gwerth drwy gynorthwyo i wella rhwydwaith TrawsCymru.”

Mae’r amserlen a gwybodaeth am brisiau tocynnau ar gael ar wefan Bws Casnewydd:

www.newportbus.co.uk/traws-hafren-t7-route