Skip to Main Content

Lansiodd Cyngor Sir Fynwy ei gynigion cyllideb ar gyfer 2021-2022 ar ddydd Mercher 20fed Ionawr. Mae’r cynigion wedi’u pennu ar ôl blwyddyn ddigynsail sydd wedi dod â phwysau na ellir eu hosgoi, yn fwyaf nodedig gan gynnwys y pandemig a’r achosion niferus o lifogydd. Er bod y cyngor yn pwyso ar Lywodraeth Cymru i barhau i ariannu’n llawn costau sy’n gysylltiedig â COVID a cholledion incwm drwy’r flwyddyn hon a’r flwyddyn nesaf, mae’r cyngor yn wynebu gwerth £10.1m o bwysau gwasanaeth anochel sy’n parhau i effeithio’n drwm ar gyllid y cyngor.

Dywedodd y Cynghorydd Peter Fox OBE, Arweinydd Cyngor Sir Fynwy: “Mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn heriol iawn, a bydd y 12 mis nesaf yn parhau felly am nifer o resymau.  Ar ôl sawl blwyddyn o gyflawni arbedion sylweddol, bydd y ffordd o sicrhau arbedion pellach yn dod yn fwyfwy heriol.  Gwaethygwyd y sefyllfa hon gan y pandemig a’r achosion difrifol o lifogydd, sydd wedi gofyn am ymateb brys a’r angen i sicrhau bod gwasanaethau hanfodol yn cael eu darparu’n effeithiol mewn amgylchiadau anodd.  Mae angen i gynigion y gyllideb eleni ystyried gwerth £10.1m o bwysau ar wasanaethau. Gan orfod mynd i’r afael â’r lefel sylweddol hon o bwysau, rydym wedi bod yn ofalus ac yn feddylgar wrth lunio pecyn ariannu sy’n ceisio lleihau, ac yn y rhan fwyaf o achosion atal, unrhyw effaith ar wasanaethau allweddol.

“Mae cynigion y gyllideb bellach ar gael i’w gweld ar ein gwefan a byddwn yn annog pawb i anfon eu barn a’u hadborth drwy’r ffurflen ar-lein, sydd i’w gweld ochr yn ochr â’r cynigion ar y wefan. Yn ogystal, rydym yn cynnal gweminar ar ddydd Mercher 27ain Ionawr, a fydd yn gyfle i ofyn cwestiynau a rhoi adborth mewn sesiwn byw ar-lein. Yn anffodus, oherwydd y pandemig nid yw ein sesiynau ymgysylltu wyneb yn wyneb traddodiadol yn bosibl eleni, felly rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i estyn allan mewn ffyrdd covid-ddiogel eraill,” meddai’r Cynghorydd Fox.

Dywedodd y Cynghorydd Phil Murphy, yr Aelod Cabinet dros Adnoddau:  “Rydym yn falch bod Llywodraeth Cymru wedi cydnabod anawsterau’r flwyddyn ddiwethaf ac am y tro cyntaf ers blynyddoedd lawer rydym wedi cael cynnydd uwch na’r cyfartaledd yn ein setliad (3.9%, yn erbyn cynnydd cyfartalog o 3.8% ledled Cymru), sydd wedi helpu’n sylweddol gyda’r pwysau rydym wedi bod yn eu hysgwyddo.  Fodd bynnag, sir Fynwy sy’n dal i gael y cyllid lleiaf y pen o’r boblogaeth (£1,067) o’i gymharu â gweddill Cymru (£1,471 ar gyfartaledd), sydd wedi ein harwain i orfod cynnig cynnydd o 4.95% o ran y dreth gyngor ar gyfer y flwyddyn nesaf.

“Rydym yn defnyddio ein cronfeydd wrth gefn cyfyngedig a’n derbyniadau cyfalaf i gynorthwyo’r gyllideb, ac yn cynnig pecyn o arbedion wrth symud ymlaen, sy’n ymdrin â phenderfyniadau a wnaed eisoes yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Mae’r rhain yn cynnwys y cynnydd yn y tâl am gasgliadau gwastraff gardd gwyrdd, cyflwyno bagiau ailgylchu y gellir eu hail-ddefnyddio a lleihau tirlenwi, sydd yn cyfrannu gyda’i gilydd at arbediad o £685,000. Yn ogystal, bydd cau ysgol Tŷ Mounton, a gyhoeddwyd yn flaenorol, yn arwain at arbediad o £1.258m. Nid yw cau’r adeilad hwn wedi arwain at dynnu gwasanaeth yn ôl ac mae darpariaeth amgen wedi’i darparu a’i chefnogi gan fuddsoddiad sylweddol mewn model yn y sir sy’n gweld plant yn cael cymorth mewn ysgolion prif ffrwd lle bynnag y bo modd.

“Fodd bynnag, hyd yn oed gyda’r arbedion hyn mae gennym bwysau sylweddol i fynd i’r afael â hwy o hyd ac rydym yn cynnig cynnydd o 4.95% yn y dreth gyngor a chyflwyno rhai taliadau newydd, a chynyddu ffioedd a thaliadau mewn nifer o feysydd yn unol â chwyddiant, a bydd eu manylion ar gael ar ein gwefan. Bydd cynllun gostyngiadau’r dreth gyngor, sy’n cynnig mesurau lliniaru i’r rhai ar incwm isel a’r rhai sy’n cael budd-daliadau, yn dal i fod ar waith.  Mae aelwydydd un person hefyd yn gymwys i gael gostyngiad o 25% ar y dreth gyngor.  Mae taliadau am ofal cartref a phreswyl hefyd yn seiliedig ar brawf modd ac wedi’u capio i liniaru effaith y rhai sydd ar yr incwm isaf,” meddai’r Cynghorydd Murphy.

“Mae cyllidebau blynyddoedd blaenorol wedi gweld gwasanaethau rheng flaen yn wynebu gostyngiadau nodedig, ond nid yw hyn yn wir eleni.  Byddwn yn parhau i weithio’n galed i ddiogelu gwasanaethau rheng flaen a mynd i’r afael â materion allweddol sy’n effeithio ar ein cymunedau” meddai’r Cynghorydd Murphy.

Gwahoddir preswylwyr i gofrestru ar gyfer sesiwn ffrydio’n fyw arbennig ar y cyllideb a fydd yn digwydd am 6pm ar ddydd Mercher 27ain Ionawr. Oherwydd pandemig COVID-19, ni fyddai’r ymgysylltu wyneb yn wyneb ar y gyllideb, a fyddai fel arfer yn digwydd, yn beth priodol ar hyn o bryd, felly mae’r broses yn symud ar-lein. Cofrestrwch i gymryd rhan drwy wefan y cyngor a bydd e-bost yn cael ei ddanfon atoch gyda dolen i ymuno â’r digwyddiad. I’r rhai nad ydynt yn gallu ymuno â’r sesiwn ffrydio’n fyw, bydd y sesiwn yn cael ei lanlwytho i’r wefan i’w gwylio ar ôl y digwyddiad.

Fel rhan o’r broses ymgynghori, sydd ar agor tan 17eg Chwefror 2021, gofynnir i breswylwyr hefyd rannu eu barn mewn arolwg adborth ar gynigion y gyllideb, sydd i’w gweld ochr yn ochr â’r holl gynigion ar dudalen https://www.monmouthshire.gov.uk/cy/cyllideb-2021-22/