Skip to Main Content

Bydd Cyngor Sir Fynwy yn nodi Diwrnod Coffa’r Holocost eleni gyda digwyddiad ar-lein sydd ar agor i bob preswylydd. Fe’i cynhelir rhwng 4.30pm a 5pm ddydd Mercher 27 Ionawr gyda thema “Bod y Goleuni yn y Tywyllwch”.

Mae Diwrnod Coffa’r Holocost yn ddiwrnod rhyngwladol a drefnir bob blwyddyn gan Ymddiriedolaeth Diwrnod Cofio’r Holocost i gofio’r chwe miliwn o Iddewon a gafodd eu llofruddio yn ystod yr Holocost, wrth ochr y miliynau o bobl a laddwyd dan erledigaeth y Natsiaid, ac mewn hin-laddiad a ddilynodd yn Cambodia, Rwanda, Bosnia a Darfur.

Mae Hybiau Cymunedol y cyngor yng Nghas-gwent a Chil-y-coed wedi cynnal digwyddiadau tebyg yn flaenorol, ond eleni bydd cyfyngiadau oherwydd y pandemig presennol yn atal aelodau o’r cyhoedd rhag bod yn bresennol.

Dywedodd y Cynghorydd Sara Jones, aelod cabinet Sir Fynwy dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Datblygu Cymunedol: “Mae Diwrnod Cofio’r Holocost yn amser i ni fwrw golwg yn ôl ar y gorffennol a dysgu oddi wrtho i adeiladu dyfodol gwell; mae’n ymwneud â hyrwyddo cydraddoldeb, parch a dealltwriaeth a chofio dioddefwyr erledigaeth a llofruddiaeth. Gobeithiaf y bydd pobl yn oedi i ddangos parch a mewngofnodi ar ein gwasanaeth.”

Bydd y digwyddiad yn cael ei ffrydio’n fyw trwy blatfform cyfathrebu Microsoft Teams a gall preswylwyr ei ddilyn trwy gofrestru yma: https://bit.ly/3qwxKWk

Tuag at ddiwedd y seremoni, bydd cyfle i gynnau cannwyll ac ymuno mewn munud o dawelwch – gofynnir i breswylwyr gael cannwyll yn barod os hoffent gymryd rhan.