Skip to Main Content

Caiff pobl sy’n byw yn Sir Fynwy eu hannog i ystyried maethu yn 2021. Daw galwad recriwtio’r cyngor yn dilyn blwyddyn anodd, gyda cholledion swyddi eang a llawer o bobl yn ailystyried eu gyrfaoedd.

Mae tîm maethu’r cyngor yn galw ar unrhyw un a allai fod yn dymuno rhoi cynnig ar rywbeth newydd ac a all gynnig cartref diogel a chariadus i blant a phobl ifanc mwyaf bregus y sir i gysylltu â nhw. Mae recriwtio gofalwyr maeth wedi parhau yn un o brif flaenoriaethau’r cyngor drwy gydol y pandemig, gyda’r angen parhaus i blant sy’n derbyn gofal i gael eu lleoli gyda theuluoedd lleol.

Mae tîm gofal maeth Sir Fynwy yn dymuno clywed gan bobl o amrywiaeth o gefndiroedd a all gynnig cartref i blant a phobl ifanc o bob gwahanol oedran ac anghenion. Mae’r cyngor yn edrych yn benodol am bobl a all ofalu am bobl ifanc yn eu harddegau, gofalwyr therapiwtig, gofalwyr maeth, gofalwyr argyfwng, grwpiau o frodyr a chwiorydd a phlant gydag anghenion ychwanegol. Yn bwysicaf oll, mae’r tîm yn edrych am bobl a all fod yn fodelau rôl cadarnhaol a rhoi cefnogaeth, anogaeth ac ymdeimlad o berthyn i blentyn neu berson ifanc a gwneud yn siŵr eu bod yn teimlo’n ddiogel ac yn saff.

Caiff ymgeiswyr llwyddiannus gynnig cefnogaeth leol a hyfforddiant i ategu’r safonau uchel o ofal a ddarperir gan ofalwyr maeth y sir. Mae hefyd lwfans maethu ar gyfer costau gofalu am blentyn.

Mae effaith COVID-19 wedi golygu y bu’n rhaid i dîm gofal maeth Sir Fynwy recriwtio mewn ffordd wahanol. Mae hyn wedi gweld y tîm yn cynnig cyfarfodydd a sgyrsiau rhithiol, gyda sesiynau ‘Pump Maeth’ ar-lein ar gyfer unrhyw un sy’n dymuno canfod mwy am faethu gyda’r cyngor. Gobeithir y bydd y cynigion recriwtio newydd, tebyg i’r ymweliadau cartref rhithiol, yn annog mwy o ddarpar ofalwyr maeth i gysylltu er mwyn dechrau ar eu taith maethu.

Dywedodd y Cyng Penny Jones, Aelod Cabinet dros Ddiogelu, Gofal Cymdeithasol ac Iechyd: “Yn dilyn un o’r blynyddoedd mwyaf heriol mewn cenhedlaeth, ni allai ein galwad am bobl garedig a gofalgar i ystyried maethu gyda Sir Fynwy fod yn bwysicach. Os ydych yn rhywun a allai fod yn edrych am newid gyrfa ac eisiau gwneud rhywbeth gwerth chweil, byddwch nid yn unig yn newid eich bywyd eich hun ond hefyd fywydau ein plant a phobl ifanc sydd ag angen dybryd am gartref diogel. Byddwn yn annog unrhyw un a fedrai fod yn ystyried maethu i godi’r ffôn i ganfod os gallai fod yn iawn i chi.”

I gael manylion pellach anfonwch neges destun Foster i 60060, ymweld â Monmouthshire.gov.uk/fostering, anfon e-bost at foster@monmouthshire.gov.uk neu ffonio 01873 735950.