Skip to Main Content

Caiff preswylwyr eu hannog i ddefnyddio rhwydwaith eang o help a chymorth a gynigir gan Gyngor Sir Fynwy a’i bartneriaid. Daw’r cymorth wrth i Gymru ddechrau ar bumed wythnos o fesurau cyfnod clo, gyda miliynau o bobl o bob rhan o Brydain yn aros gartref. Mae’r tîm Cymuned a Datblygu Partneriaeth yn atgoffa preswylwyr eu bod ar gael i gefnogi unrhyw un a all fod yn cael problemau o gael mynediad i fwyd ac eitemau hanfodol i’r rhai a all fod yn ceisio cymorth ar gyfer eu hiechyd meddwl a chorfforol.

Mae’r tîm Cymuned a Datblygu Partneriaeth, ynghyd â phartneriaid allweddol, eisoes wedi chwarae rôl ganolog yn yr ymateb i COVID-19. Yn ystod y cyfnod clo cenedlaethol cyntaf ym mis Mawrth 2020 fe wnaethant helpu dod â byddin o wirfoddolwyr ynghyd i gefnogi preswylwyr mwyaf bregus a phobl ar y rhestr warchod yn Sir Fynwy. Mewn wythnosau diweddar, gyda’r pandemig yn cynyddu o ran difrifoldeb a risgiau uwch straen newydd o’r feirws, mae’r angen i helpu pobl a  all fod yn fregus neu rai heb rwydwaith cefnogol yn hollbwysig.

Gobeithir y bydd preswylwyr sy’n cael unrhyw fath o broblem yn cysylltu â’r tîm er mwyn dynodi dull o gymorth addas i’w hanghenion. Mae cydweithio gyda phartneriaid allweddol yn gynnwys GAVO, Mind Sir Fynwy a gwasanaeth tai Sir Fynwy yn golygu y gallant gynnig cymorth megis mynediad i fwyd a phresgripsiynau, cyfeillion ffôn, cyfeillion ysgrifennu, gwasanaeth cymorth  siopa ar-lein, help i ddefnyddio dyfeisiau digidol i gysylltu gyda pherthnasau neu eraill, cyfleoedd llesiant a chymorth gydag iechyd meddwl. Bydd y tîm yn gweithio gydag unigolion i ymchwilio’r opsiynau gorau ac maent eisoes wedi helpu dros 1,200 o breswylwyr ers dechrau 2020.

Dywedodd y Cynghorydd Sara Jones, Aelod Cabinet Datblygu Cymunedol a Chyfiawnder Cymdeithasol: “Mae ein cymunedau wedi parhau’n gydnerth drwy gydol y cyfnod anodd hwn ond gwyddom fod llawer o bobl yn wynebu amgylchiadau anodd. Gyda’r effaith sylweddol ar ein heconomi a llawer o bobl yn wynebu colli eu swyddi, rydym eisiau atgoffa pobl nad yw’n rhaid iddynt frwydro yn dawel. Mae ein cydweithwyr yn barod ac yn aros i helpu pobl p’un ai yw hynny’n cael mynediad i fanciau bwyd, cymorth gydag iechyd meddwl neu hyd yn oed os yw rhywun yn medru mynd i nôl presgripsiwn yn y cyfnod clo.

“Mae cydweithio gyda’r rhwydwaith eang yma o sefydliadau’n ein galluogi i sicrhau fod pobl  yn cael yr help a’r arbenigedd cywir i gefnogi eu hanghenion. Hoffwn ddiolch i’n partneriaid a’n tîm Cymuned a Phartneriaethau am barhau i fynd yr ail filltir yn yr hyn a fu’r cyfnod mwyaf heriol mewn cenhedlaeth.”

Gofynnir i unrhyw un sy’n dymuno cael mynediad i help a chymorth i gysylltu â: partnerships@monmouthshire.gov.uk neu ffonio 01633 644 696.