Skip to Main Content

Mae busnesau Sir Fynwy y mae cyfyngiadau ychwanegol cysylltiedig â Covid wedi effeithio arnynt yn gymwys am grant gan Lywodraeth Cymru fydd yn cynnig cymorth llif arian yn ystod y pandemig presennol. Nod y Gronfa i Fusnesau dan Gyfyngiadau a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru yw cefnogi busnesau sy’n gweithredu o fewn y sectorau lletygarwch, twristiaeth a hamdden neu eu cadwyn gyflenwi a manwerthwyr heb fod yn hanfodol y mae’r cyfyngiadau diweddaraf a ddaeth i rym ar 4 Rhagfyr a 20 Rhagfyr 2020 wedi effeithio arnynt.

Bydd busnesau cymwys a dderbyniodd daliad dan y cynllun grant Ardrethi Annomestig yn ystod y Cyfnod Clo Byr blaenorol eisoes wedi derbyn taliad awtomatig ychwanegol o naill ai £3,000 neu £5,000. Gall busnesau na dderbyniodd daliad awtomatig neu na wnaeth gais yn flaenorol am y grant Ardrethi Annomestig Cyfnod Clo Byr gael mynediad i’r cynllun newydd drwy lenwi cais byr ar dudalen gwefan y cyngor – www.monmouthshire.gov.uk/business-advice/.  Gall busnesau gyda gwerth trethiannol o rhwng £51,000 a £150,000 sy’n gweithredu yn y sectorau lletygarwch, twristiaeth, hamdden neu eu cadwyn gyflenwi a sectorau manwerthu heb fod yn hanfodol hefyd fod yn gymwys am grant Ardrethi Annomestig Busnesau dan Gyfyngiadau.

Dim ond i fusnesau sy’n atebol am ardrethi busnes ar ardrethi busnes ar eiddo yn Sir Fynwy y mae’r grantiau hyn ar gael ar hyn o bryd. Caiff cynllun i gynorthwyo busnesau Sir Fynwy nad ydynt yn atebol am ardrethi busnes ei lansio yn y dyfodol agos.

Dywedodd y Cynghorydd Bob Greenland, aelod cabinet dros Fenter Cyngor Sir Fynwy: “Rydym yn sylweddoli’r pryder sydd yn y gymuned fusnes leol yn dilyn y cyfnod clo diweddaraf a dyna pam fod y cyngor eisoes wedi talu £2.1m dan y cynllun grant diweddaraf. Yn y cyfamser, rwy’n annog busnesau sy’n credu eu bod yn gymwys am y Gronfa i Fusnesau dan Gyfyngiadau i astudio’r meini prawf ar ein tudalen gwefan cyngor busnes a gwneud cais am grant cyn gynted ag sydd modd.”

Mae mwy o wybodaeth ar y Gronfa i Fusnesau dan Gyfyngiadau ar gael drwy gysylltu â BusinessSupportGrants@monmouthshire.gov.uk