Skip to Main Content

Yn ddiweddar, mae Cyngor Sir Fynwy wedi cyhoeddi bod llwybr troed Maes Tanio Glannau Hafren wedi cau ar frys.  Cymerwyd y camau hyn ar sail iechyd a diogelwch yn dilyn nifer cynyddol o gerddwyr nad ydynt yn cadw at y llwybr dynodedig ac yn cerdded ar ben wal y môr, ac felly’n crwydro i’r maes tanio gyfagos, gan roi eu hunain mewn perygl.

Dywedodd y Cynghorydd Richard John, Aelod Cabinet dros MonLife: “Mae Llwybr Troed Maes Tanio Glannau Hafren yn creu llawer o heriau cymhleth.” “Mae’r llwybr troed, sydd wedi dod yn fwyfwy poblogaidd, hefyd wedi bod yn safle tipio anghyfreithlon, llosgi bwriadol, fandaliaeth a gatiau’n cael eu gadael ar agor yn ddiweddar, sydd wedi caniatáu i wartheg grwydro, felly mae llawer o faterion i fynd i’r afael â nhw. 

“Rydym yn pryderu’n fawr fod pobl mewn perygl gan fod y tir hwn yn cynnwys maes tanio byw ac mae’r Llwybr Troed Diffiniol mewn cyflwr peryglus. Mae hwn yn fater iechyd a diogelwch go iawn felly bu’n rhaid i ni gau ar frys am chwe mis rhan o’r llwybr troed sy’n rhedeg drwy’r maes tanio hyd nes y gellir rhoi mesurau ar waith i sicrhau bod pob cerddwr yn cadw at y llwybr cywir a diogel, neu gellir cytuno ar ddewis arall.”

“Byddwn yn cysylltu â’r holl bartïon dan sylw, gan gynnwys Cyfoeth Naturiol Cymru a’r tirfeddianwyr, i ymchwilio i sut y gellir datrys y materion sy’n ymwneud â’r llwybr troed hwn.  Bydd ymgynghoriad yn dilyn hyn cyn i unrhyw fesurau gael eu rhoi ar waith yn barhaol,” ychwanegodd y Cynghorydd John. 

Mae Gwasanaeth Mynediad i Gefn Gwlad Cyngor Sir Fynwy wedi edrych ar union lwybr y llwybr troed.  Dangosodd archwiliad manwl o’r llwybr troed swyddogol (cyfeirnod 354/6/3) ar y Map Diffiniol o Hawliau Tramwy Cyhoeddus yn Sir Fynwy a chofnodion eraill, nad yw’r llwybr yn rhedeg mewn llinell barhaus ar draws wal y môr ond ei fod yn rhedeg i ffwrdd ohoni ac arni ac wrth ei hymyl, nid lle mae pobl yn cerdded ar hyn o bryd.  Nid yw’n rhan o Lwybr Arfordir Cymru. Caiff hyn ei lwybro i ffwrdd o’r wal môr yn yr ardal hon ac mae wedi’i arwyddo’n dda ac mae ar gael o hyd i gerddwyr.  Gofynnir i unrhyw bartïon sydd â diddordeb gofrestru hynny gyda thîm y Gwasanaeth Mynediad i Gefn Gwlad drwy e-bost: countryside@monmouthshire.gov.uk