Skip to Main Content

Caiff blychau Nadolig arbennig eu dosbarthu ar draws Sir Fynwy i gefnogi teuluoedd a gollodd anwyliaid eleni. Mae’n un o’r nifer o ffyrdd y mae tîm Adeiladu Teuluoedd Cryf Sir Fynwy yn cynnig cefnogaeth, a buont yno i deuluoedd lleol drwy gydol y pandemig.

Cafodd y blychau eu creu yn lle’r ‘grŵp atgofion’ blynyddol, sydd wedi methu cwrdd eleni oherwydd fel COVID-19. Yn lle hynny, mae’r tîm wedi gwneud a phostio dwsinau o flychau Nadolig ar gyfer teuluoedd lleol i roi cyfle i bobl ddod ynghyd a chymryd rhan mewn gweithgareddau sy’n eu helpu i gofio eu hanwyliaid.

Y tîm Gwasanaethau Therapiwtig sy’n cynnwys cwnselwyr, therapyddion a gweithwyr cymorth teulu, i fod yno ar gyfer pawb mewn cyfnod anodd, sydd wedi creu a dosbarthu’r blychau Nadolig. Mae’r blychau yn cynnwys glain y gall pobl eu gwneud gyda’i gilydd ac yna eu rhoi ar y goeden Nadolig er cof eleni ac ym mlynyddoedd y dyfodol. Gellir defnyddio’r blychau wedyn fel man arbennig i bobl ifanc gadw eu hatgofion.

Dywedodd y Cyng Penny Jones, Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol ac Iechyd: “Hoffwn estyn fy nymuniadau gorau i bawb sy’n colli rhywun annwyl eleni. Mae galar yn dorcalonnus ar unrhyw adeg o’r flwyddyn ond yn neilltuol o galed adeg y Nadolig, gall fod mor anodd gwybod sut i drin colled a galar ar adeg sydd ynglŷn â theulu a bod gyda’n gilydd. Mae mor drist nad ydym wedi gallu cwrdd â’n teuluoedd wyneb yn wyneb yng Nghastell Cil-y-coed eleni, ond rwyf mor falch o’r holl waith a wnaeth tîm Adeiladu Teuluoedd Cryf Sir Fynwy i roi help mewn ffordd wahanol drwy bostio blychau Nadolig i deuluoedd lleol. Cadwch yn ddiogel.”

Gall unrhyw un sydd angen help gysylltu â llinell gyngor y tîm Adeiladu Teuluoedd Cryf rhwng 10am a 3pm  01633 644152 / 07970166975, neu e-bost earlyhelppanel@monmouthshire.gov.uk