Skip to Main Content

Croesawyd y newyddion fod y Cyngor wedi derbyn cadarnhad gan Lywodraeth Cymru y bydd yn derbyn cynnydd o 3.9% yn ei gyllid creiddiol y flwyddyn nesaf, uwch na’r cyfartaledd o 3.8% ar gyfer Cymru a lle cafodd cynghorau ledled Cymru setliadau’n amrywio o gynnydd o rhwng 2.0% a 5.6%. Aiff hyn beth o’r ffordd i alluogi’r Cyngor i ddarparu ar gyfer pwysau sylweddol heblaw COVID yn effeithio ar wasanaethau’r Cyngor y flwyddyn nesaf ac i leihau’r angen i’r Cyngor ddefnyddio ei gronfeydd cyfyngedig untro i gefnogi’r gyllideb.

Dywedodd y Cynghorydd Peter Fox, Arweinydd Cyngor Sir Fynwy: “Rwy’n falch iawn fod Llywodraeth Cymru wedi cydnabod rôl llywodraeth leol yn y flwyddyn hynod hon. Mae gwasanaethau’r Cyngor yn parhau i fod dan bwysau parhaus a chynyddol, hyd yn oed tu hwnt  i gynnydd cost a diffygion incwm yn deillio o’r pandemig. Bydd y cynnydd uwch na’r cyfartalog fan leiaf oll yn rhoi rhywfaint o hyblygrwydd ychwanegol i ymateb i’r straen digynsail ar gyllid y Cyngor a’r dewisiadau a wnaiff wrth osod y gyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf.

Ynghyd â’r cyhoeddiad am y setliad a’r cyllid COVID y gallodd y Cyngor ei hawlio eleni yn barod, bu eisoes a bydd eto symiau canlyniadol sylweddol o gyhoeddiadau cyllid Llywodraeth y Deyrnas Unedig, rhai ohonynt heb eu dyrannu eto o fewn cyllideb Llywodraeth Cymru. Mae’n bwysig y caiff y pwysau go iawn mewn llywodraeth leol eu hystyried a byddwn yn parhau i gyflwyno’r achos hwn i Weinidogion yn ystod yr wythnosau nesaf. Heb gyllid o’r fath bydd y Cyngor unwaith eto mewn sefyllfa o orfod cymryd penderfyniadau caled ac anodd er gwaethaf y newydd da a gynigir gan y setliad darpariaethol.”

Dywedodd y Cynghorydd Phil Murphy, Aelod Cabinet dros Adnoddau:

“Mae’r setliad darpariaethol wedi cynnig achubiaeth bosibl i’r Cyngor a golygu y gall osgoi gorfod gwneud penderfyniadau anodd, uniongyrchol a thymor byr fyddai’n effeithio ar ei wasanaethau rheng flaen. Er ei bod yn ddealladwy o gofio am yr ansicrwydd economaidd fyd-eang a chenedlaethol mai dim ond rhagolwg cyllid un flwyddyn y mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi ei roi i Lywodraeth Cymru, bydd hyn yn parhau i wneud cynllunio ariannol tymor canol yn anodd.

Gobeithiwn nad am dymor byr y fu’r cynnydd uwch na’r cyfartalog a gan fod y Cyngor yn hanesyddol a hyd yma wedi bod y Cyngor sy’n derbyn y setliad cyllido gwaethaf yng Nghymru. Mewn gwirionedd mae’r Cyngor yn parhau’n ddisymud ar waelod y tabl ar gyfer y swm o gyllid y pen y mae’n ei dderbyn gan Lywodraeth Cymru.”

Caiff cynigion cyllideb ddrafft y Cyngor ei ystyried gan ei Gabinet mewn cyfarfod ar 20 Ionawr 2021 a chânt wedyn eu rhyddhau ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus. Oherwydd y pandemig presennol a’r cyfyngiadau fydd yn parhau i’r Flwyddyn Newydd bydd y Cyngor yn dymuno cysylltu gyda rhanddeiliaid allweddol a’r cyhoedd drwy ei wefan a digwyddiadau ymgynghori rhithiol ar y gyllideb. Bydd gwybodaeth bellach ar gael ar wefan y Cyngor yn y Flwyddyn Newydd.