Skip to Main Content

Mae Gwasanaeth Ieuenctid Cyngor Sir Fynwy yn gofyn i bobl ifanc rhwng 11 a 25 oed gymryd rhan yn ei ymgynghoriad blynyddol ‘Gwnewch eich Marc’, sy’n rhedeg tan ddydd Llun 30ain Tachwedd. Nid yn unig yw hyn yr ymgynghoriad ieuenctid mwyaf yn Sir Fynwy, ond dyma’r mwyaf yn y DU hefyd. Y llynedd, cymerodd dros 3,000 o bobl ran a gobeithir y bydd hyd yn oed mwy yn cymryd rhan eleni er, oherwydd pandemig COVID-19, mae’r cyfarfodydd wyneb yn wyneb arferol wedi cael eu disodli gan wasanaeth ar-lein.

Bydd canlyniadau’r bleidlais ‘Gwnewch eich Marc’ yn ffurfio gwaith y cyngor ieuenctid ac fe’i defnyddir i ddylanwadu ar benderfyniadau a wneir o fewn y cyngor dros y flwyddyn nesaf.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Blant a Phobl Ifanc, y Cynghorydd Richard John: “Byddwn yn annog pob rhiant, gwarcheidwad ac athro i helpu i gefnogi pobl ifanc i fwrw eu pleidlais.  Mae’n gyfle pwysig i fynegi’r hyn sy’n bwysig i bobl ifanc a’r hyn y maent am weld yn cael ei newid.”

Mae ‘Gwnewch eich Marc’ a’r ‘Gwnewch eich Marc yn Sir Fynwy’ yn ddau ymgynghoriad sy’n cael eu cynnal yn olynol bob blwyddyn. ‘Gwnewch eich Marc’ yw pleidlais ieuenctid fwyaf y DU, sy’n cael ei rhedeg gan senedd Ieuenctid y DU ac a gyflwynir mewn ysgolion gan Wasanaeth Ieuenctid Cyngor Sir Fynwy.

Mae ‘Gwnewch eich Marc yn Sir Fynwy’ yn canolbwyntio ar flaenoriaethau lleol. Mae’r ymgynghoriad yn rhoi cyfle i bobl ifanc gael llais a gwneud gwahaniaeth mewn materion sy’n effeithio arnynt.  Mae’r Cyngor Ieuenctid Ymgysylltu i Newid yn cynrychioli barn eu cyfoedion. Mae Cyngor Ieuenctid hwn yn argymell barn pobl ifanc yn lleol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol. Mae’r ymgynghoriad yn rhedeg tan30ain Tachwedd ac i bleidleisio ac i gael rhagor o wybodaeth, ewch i: https://linktr.ee/MonYouthService

Ym mis Ionawr 2021, bydd ‘Gwnewch eich Marc yn Sir Fynwy’ yn cynnal digwyddiad ar-lein i ddeall yn well pam y dewisodd pobl ifanc ymatebion penodol, i gymryd rhan mewn trafodaeth agored gyda’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau allweddol ar sut y gellir ymdrin â’r tair prif flaenoriaeth, pam eu bod yn bwysig i bobl ifanc ledled y sir ac, yn bwysicaf oll, sut y gellir gwneud newid.

I gael gwybod mwy am Wasanaethau Ieuenctid Sir Fynwy a ‘Gwnewch eich Marc’ ewch i www.monlife.co.uk/connect/youth-service/make-your-mark/