Skip to Main Content

Bydd trefi a phentrefi Sir Fynwy yn cael eu gweddnewid fel ymgyrch newydd sy’n cael ei lansio gyda’r nod o gefnogi busnesau yn y cyfnod cyn y Nadolig. 

Nod ymgyrch Nadolig ‘Siopa Lleol, Siopa Sir Fynwy’ Cyngor Sir Fynwy yw dod â rhywfaint o hwyl nadolig i’n strydoedd mawr, tra’n hyrwyddo busnesau unigryw’r sir, eu cynnyrch a’u gwasanaethau.

Dywedodd y Cynghorydd Sirol Bob Greenland, Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir Fynwy:  “Mae busnesau wedi cael eu taro’n galed gan effaith ariannol y pandemig eleni ac rwyf am ofyn i bawb gofio i Siopa’n Lleol a helpu i gadw ein strydoedd mawr yn ffynnu.

“Gallwn oll helpu. O archebu ein twrci Nadolig mewn cigydd neu siop fferm leol, i gasglu llysiau ffres o groser annibynnol neu fasnachwr marchnad, gellir prynu popeth sydd eu hangen ar gyfer Nadolig gwych, yma yn Sir Fynwy. A phan ddaw’n fater o anrhegion, gwn fod pob un o’n trefi a’n pentrefi yn cynnig llawer iawn o ysbrydoliaeth a dewisiadau.  Felly, byddwn yn gofyn i bawb ymuno a mynd y tu ôl i fusnesau lleol pan fydd eu hangen fwyaf arnynt.

Er mwyn helpu i annog siopwyr, cyhoeddodd y cyngor yn ddiweddar parcio am ddim ar benwythnosau yn ei feysydd parcio, drwy gydol mis Rhagfyr. Mae cadw siopwyr yn ddiogel yn flaenoriaeth, a bydd mesurau dros dro gan gynnwys llwybrau cerdded wedi’u lledu yn aros mewn trefi a phentrefi, cyn belled â bod rheoliadau COVID-19 ar waith, er mwyn caniatáu i breswylwyr allu cynnal ymbellhau cymdeithasol tra’n casglu eu hanfodion Nadolig. Bydd siopwyr yn gweld addurniadau a phosteri lliwgar ‘Siopa Lleol, Siopa Sir Fynwy’ yn hyrwyddo rhai o’r ystod o wasanaethau y mae busnesau’n eu cynnig, gan gynnwys talebau anrhegion, bod yn ‘gyfeillgar i gŵn’, cynnig Clicio a Chasglu, a hyd yn oed danfoniadau cartref.