Skip to Main Content

Gwelodd eleni don o greadigrwydd a thosturi yn ymestyn ar draws cymunedau Sir Fynwy. Gyda thymor yr ŵyl yn agosáu, gofynnir am ewyllys da pobl unwaith eto ar gyfer apêl Dymuniadau Nadolig 2020.

Mae tîm Gwasanaethau Plant Cyngor Sir Fynwy yn gwahodd y gymuned leol i wneud unrhyw gyfraniad ariannol y teimlant y medrant ei wneud i gefnogi’r plant a’r bobl ifanc mwyaf bregus mae’r tîm yn gweithio gyda nhw ar hyn o bryd. Bydd yr ymgyrch flynyddol yn dod ag ychydig o hwyl yr ŵyl i dros 250 o blant mewn angen, plant sy’n derbyn gofal ac ymadawyr gofal nad oes ganddynt unrhyw gefnogaeth deuluol.

Y llynedd rhoddodd cynghorwyr Sir Fynwy, hybiau cymunedol, cwmnïau lleol a hyd yn oed blant a chlybiau gefnogaeth i’r apêl a phrynu anrhegion gwych, a gafodd wedyn eu dosbarthu gan weithwyr cymdeithasol ledled y sir yn y cyfnod cyn y Nadolig. Cafodd hyn ei werthfawrogi’n fawr iawn ac roedd yn rhyfeddol sut y tynnodd pawb at e gilydd i gefnogi’r rhai mwyaf anghennus. Gwaetha’r modd, eleni mae’r pandemig wedi golygu nad yw’n bosibl casglu, storio a dosbarthu teganau, nwyddau ymolchi ac anrhegion eraill yn bosibl a sicrhau cadw at bob mesur COVID-19. Yn lle hynny, mae Gwasanaethau Plant Sir Fynwy yn lansio apêl Dymuniadau Nadolig ar-lein a chaiff pob ceiniog a gyfrannir eu defnyddio i brynu cardiau rhodd, talebau a hamperau.

Dywedodd y Cynghorydd Penny Jones, Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol ac Iechyd: “Bu eleni yn flwyddyn anodd i deuluoedd ar draws Sir Fynwy a thra’n bod yn parhau i wynebu heriau’r pandemig, mae tymor yr ŵyl yn amser i feddwl am blant a phobl ifanc bregus. Mae apêl Dymuniadau Nadolig eleni mor bwysig ag erioed ac mae’n gyfle gwych i wneud yn siŵr fod y bobl ifanc hyn yn teimlo’r un mor arbennig â phawb arall. Gwn ei fod yn gyfnod anodd ond gofynnaf i chi os gallwch gyfrannu hyd yn oed swm bychan, i wneud hynny – rydych o ddifri yn gwneud gwahaniaeth mawr.”

Gall unrhyw un sy’n dymuno cyfrannu i’r apêl wneud hynny drwy ymweld â

www.monmouthshire.gov.uk/christmas-wishes/ neu ffonio 014633 644644 opsiwn 5 am help.