Skip to Main Content

Mae BywydMynwy yn gofyn i breswylwyr bleidleisio dros Gastell a Pharc Gwledig Cil-y-coed ar gyfer gwobr bwysig y Faner Werdd.

Mae BywydMynwy, sy’n rhan o Gyngor Sir Fynwy, yn darparu gwasanaethau hamdden, ieuenctid ac addysg awyr agored, seilwaith gwyrdd a mynediad cefn gwlad, chwarae, dysgu, rheoli cyrchfannau, celfyddydau, amgueddfeydd ac atyniadau, ac yn galw ar bobl i bleidleisio cyn ei bod yn rhy hwyr.

Enwebwyd y safle hanesyddol am Wobr Dewis y Bobl 2020 Baner Werdd y Deyrnas Unedig 2020 ond nid yw ennill y wobr bwysig yn beth newydd i’r safle gan iddo ddal statws Baner Werdd ers 2013.

Mae Castell Cil-y-coed mewn 55 erw o barc gwledig hyfryd. Wedi’i sefydlu gan y Normaniaid, a’i ddatblygu gan dywysogion yn gadarnle yn yr Oesoedd Canol a’i adfer fel cartref teulu yn oes Victoria, mae gan y castell hanes rhamantus a lliwgar.

Mae’r Castell a’i diroedd yn ymuno â rhestr hir o leoedd yn Sir Fynwy a enillodd wobr Baner Werdd, yn cynnwys Hen Orsaf Tyndyrn a Dolydd y Castell yn y  Fenni. Mae’r cynllun yn cydnabod ac yn gwobrwyo parciau a gofodau gwyrdd a gaiff eu rheoli’n dda, gan osod y safon meincnod ar gyfer rheoli gofodau hamdden awyr agored ar draws y Deyrnas Unedig ac o amgylch y byd.

Dywedodd y Cynghorydd Richard John, Aelod Cabinet dros BywydMynwy: “Mae’n wych gweld safle mor hardd wedi ei enwebu am Wobr Dewis y Bobl eleni. Mae’n safle sy’n annwyl iawn i lawer o bobl yn Sir Fynwy. Yn ogystal â gofod gwledig gwych, mae ganddo hanes a straeon dirgel yng nghudd ym muriau’r castell. Mae’n bendant yn ofod i’w fwynhau gan yr holl deulu a byddwn wrth fy modd pe gallem sicrhau gwobr Baner Werdd unwaith eto.

Mae preswylwyr yn rhedeg allan o amser i gael dweud eu barn gan fod y pleidleisiau’n dod i ben ddydd Gwener 27 Tachwedd. I bleidleisio, cliciwch yma:

https://www.greenflagaward.org/park-summary/?park=2143