Skip to Main Content

Mae paratoadau ar gyfer dychwelyd i draffig dwyffordd ar Stryd Mynwy yn Nhrefynwy ar y gweill, er gwaethaf y cyfnod atal byr sydd ar ddod. Mae Cyngor Sir Fynwy wedi cadarnhau, er ei fod wedi oedi, y bydd ail-baentio llinellau yn Sgwâr Agincourt cyn gynted ag y bydd y tywydd yn gwella. Dilynir hyn yn gyflym gan ddychwelyd yr heol i draffig dwyffordd.

Bydd y cynllun dros dro, a fydd yn dal i alluogi ymbellhau cymdeithasol fel rhan o’r mesurau i fynd i’r afael â COVID-19, yn gweld parcio arhosiad byr, ynghyd â mannau bathodyn glas a mannau llwytho yn cael eu cyflwyno, yn ogystal â throetffyrdd eang. Bydd y lôn feicio bresennol yn cael ei symud i wneud lle i’r traffig dwy ffordd fel o’r blaen.

“Rydym yn gwerthfawrogi’r adborth a gafwyd gan drigolion a busnesau ac rydym wedi addasu’r mesurau a gyflwynwyd i helpu siopwyr ac ymwelwyr i deimlo’n ddiogel ac yn gallu ymbellhau’n gymdeithasol yn y dref.  Mae’r mesurau hyn yn dal i fod yn rhai dros dro a bydd unrhyw gynlluniau hirdymor ar gyfer Stryd Mynwy yn y dyfodol yn cynnwys ymgynghoriad cyhoeddus,” meddai’r Cynghorydd Bob Greenland, Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir Fynwy.

“Mae busnesau Sir Fynwy wedi brwydro’n galed i oresgyn yr heriau a achoswyd gan y pandemig COVID-19, a bydd y cyfnod cloi diweddaraf hwn yn anodd iawn. Ond rydym yma i’w cefnogi a byddwn yn cyhoeddi manylion y grantiau cymorth cyfnod atal byr diweddaraf cyn bo hir,” meddai’r Cynghorydd Greenland.  “Yn ogystal, byddwn yn lansio ein hymgyrch Siopa Lleol Siopa Nadolig Sir Fynwy’r mis nesaf er mwyn hyrwyddo siopau a busnesau lleol.

“Bydd gwaith yn parhau ar Stryd Mynwy dros y pythefnos nesaf a gobeithir y bydd popeth yn ei le yn barod i groesawu siopwyr yn ôl pan ddaw’r cyfnod atal byr i ben ar ddydd Llun 9fed Tachwedd. Tan hynny, rydym yn parhau i ofyn i breswylwyr aros yn ddiogel, ac aros adref gymaint â phosibl.”