Skip to Main Content

Mae busnesau Sir Fynwy yn wynebu cyfnod cynyddol heriol.  Mae Cyngor Sir Fynwy yn pryderu na fyddent ar hyn o bryd yn gymwys i gael grantiau o’r gronfa £60m a gyhoeddwyd yr wythnos hon, a gynlluniwyd i helpu busnesau sydd dan gyfyngiadau cloi lleol. Mae’r cyngor yn apelio ar Lywodraeth Cymru i ehangu cyrhaeddiad y gronfa pan gaiff ei lansio i gefnogi busnesau yn Sir Fynwy sy’n wynebu gostyngiad yn nifer y cwsmeriaid gan na all pobl o siroedd cyfagos ymweld mwyach.

Ar hyn o bryd, y cynllun yw bod y grantiau ar gael dim ond i’r busnesau hynny mewn sir sydd wedi bod dan gyfnod cloi lleol am dair wythnos neu fwy ac sydd wedi profi gostyngiad o 40% mewn trosiant. Byddai hyn yn gadael busnesau Sir Fynwy heb y gallu i gael mynediad at y ffynhonnell bwysig hon o gymorth ariannol. 

Er nad yw Sir Fynwy dan gyfnod cloi lleol ar hyn o bryd, mae ei busnesau eisoes wedi dechrau teimlo effaith y diffyg nifer yr ymwelwyr gan drigolion sy’n byw mewn awdurdodau lleol cyfagos, gan gynnwys Torfaen, Casnewydd a Blaenau Gwent, a fyddai fel arfer yn teithio i Sir Fynwy i siopa neu i fwyta allan. Yn ogystal, ceir adroddiadau am fusnesau twristiaeth sydd eisoes yn delio â chansladau. Mae hyn yn taro busnesau ar adeg pan oeddent yn gweithio’n galed i wella ar ôl y cyfnod cloi yn gynharach eleni.

Dywedodd y Cynghorydd Bob Greenland, Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir Fynwy “Er y bydd y llu o gymorth diweddaraf hwn yn sicr o gynnig achubiaeth hanfodol i fusnesau mewn ardaloedd sydd dan gyfnod cloi, rydym yn pryderu nad oes dim i’r rheini yn Sir Fynwy y mae eu bywoliaeth yn dibynnu ar fasnachu gyda chwsmeriaid a busnesau mewn siroedd cyfagos ac yr effeithir arnynt yn yr un modd.

“Er nad ydym dan gyfnod cloi lleol, rydym eisoes yn clywed bod perchnogion llety gwyliau yn y sir yn derbyn ceisiadau am ganslo ac ad-daliadau. Mae pobl am gael eu harian yn ôl, yn hytrach na derbyn dyddiad newydd neu nodyn credyd, sy’n cael effaith ar unwaith ar refeniw’r busnesau hyn. Yn y cyfamser, rydym yn rhagweld yn fuan, os nad yn barod, y bydd rhai o’n trefi yn gweld gostyngiad yn nifer yr ymwelwyr oherwydd y cyfyngiadau teithio sydd gan ein hawdurdodau lleol cyfagos. Oherwydd y sefyllfa felly, byddwn yn cyflwyno sylwadau i Lywodraeth Cymru i ystyried ehangu cyrhaeddiad y gronfa hon i adlewyrchu hyn.”

“Gallai’r newidiadau hyn wneud yr holl wahaniaeth i fusnesau sy’n wynebu’r set ddiweddaraf hon o heriau, o ganlyniad i’r pandemig COVID-19,” meddai’r Cynghorydd Greenland. “Gwyddom fod y manylion yn cael eu cwblhau ar hyn o bryd ynglŷn â’r gronfa hon ac rydym yn gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn manteisio ar hyn fel cyfle i werthfawrogi’r heriau y mae ardaloedd nad ydynt dan gyfnod cloi yn eu hwynebu.”

Dywedodd Kim Waters, Cadeirydd Partneriaeth Cyrchfan Sir Fynwy a Phrif Swyddog Gweithredol Gŵyl Fwyd y Fenni:  “Mae Partneriaeth Cyrchfan Sir Fynwy yn llwyr gefnogi cais y cyngor i ymestyn yr ardal gymwys o £60m o gyllid Llywodraeth Cymru y tu hwnt i ardaloedd awdurdodau lleol sydd ar hyn o bryd dan gyfnod cloi ac ar draws ardal economaidd weithredol De-ddwyrain Cymru. Mae aelodau busnes llety a lletygarwch y Bartneriaeth eisoes yn adrodd am gynnydd mewn cansladau a cheisiadau am ad-daliadau ochr yn ochr â gostyngiad mewn busnes newydd ers i’r cloeon lleol ddod i rym, a bod angen dybryd am fynediad at y cymorth ychwanegol hwn er mwyn iddynt oroesi.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Sirol Bob Greenland “Mae angen yr holl gymorth posibl ar fusnesau Sir Fynwy ar yr adeg anodd hon.  Oherwydd hyn, byddwn yn annog holl drigolion Sir Fynwy i barhau i siopa’n lleol a diolch iddynt am eu cefnogaeth.”