Skip to Main Content

Mae adnodd ar-lein newydd wedi’i lansio i helpu preswylwyr.  Mae Cyngor Sir Fynwy, mewn partneriaeth â sefydliadau gan gynnwys Cyngor ar Bopeth, Mind Monmouthshire, Undeb Credyd Gateway, pedwar banc bwyd Sir Fynwy a chymdeithasau tai Melin, Pobl a Chymdeithas Tai Sir Fynwy, yn cynnig arweiniad defnyddiol ar ei wefan i’r rhai sy’n wynebu pryderon ariannol. Mae ‘Cymorth gyda’ch Arian’, sydd ar gael yn monmouthshire.gov.uk/cy/cyngor-am-arian/, yn cynnig trosolwg o’r sefydliadau sy’n barod i roi cyngor a chymorth, yn ogystal ag awgrymu pa gymorth ychwanegol a allai fod ar gael. O wybodaeth am dai (p’un a oes gennych forgais neu’n rhentu), i reoli eich biliau cyfleustodau, neu geisio cymorth emosiynol pan fydd pethau’n mynd yn ormod i’w trin, mae cyfoeth o opsiynau ar gael.

Mae’r saith mis diwethaf wedi gweld llawer o bobl yn cael eu heffeithio’n fawr gan effaith barhaus pandemig COVID-19, gyda swyddi’n cael eu colli, gweithwyr yn cael eu rhoi ar fyrlo a busnesau’n ei chael yn anodd oroesi ar ôl colli refeniw yn ystod a thu hwnt i’r cyfnod cloi. Hyd yn oed cyn yr heriau hyn, cydnabuwyd y gallai’r rhan fwyaf o bobl fod yn dri siec cyflog i ffwrdd o drafferthion ariannol – gall morgeisi, rhenti, biliau ar gyfer gwasanaethau hanfodol gyrraedd lefel argyfwng yn gyflym iawn pan fydd eich incwm yn dod i ben. Ond mae help ar gael, a gorau po gyntaf y ceisir hynny. Gall cael trafferth gyda phryderon am ddyled cynyddol neu golli eich cartref arwain at broblemau iechyd meddwl, felly cyn i bethau fynd dros ben llestri mae’n werth archwilio pa gymorth sydd ar gael, hyd yn oed os nad oes angen i chi gael gafael arno erioed.

Dywedodd y Cynghorydd Sara Jones, yr Aelod Cabinet sy’n gyfrifol am gefnogi pobl, digartrefedd a thlodi:  “Rwy’n gwybod nad yw wynebu dyled, a chanlyniadau posibl bod mewn trafferthion ariannol, bob amser yn beth hawdd. Nid yw dod ymlaen a gofyn am gymorth yn gyfaddefiad o fethiant, mae’n gam cadarnhaol ymlaen.  Gallai unrhyw un ohonom ein cael ein hunain yn y sefyllfa hon yn rhy hawdd o lawer ond, rhaid i mi bwysleisio, mae’r cymorth hwnnw ar gael. Ni ddylai neb deimlo ar ei ben ei hun yn y sefyllfa hon, mae pobl wrth law i gynorthwyo. 

“Os yw eich incwm mewn perygl o ddod i ben neu leihau’n sylweddol, hyd yn oed os oes gennych y pryder lleiaf, cymerwch yr amser i edrych ar ba gymorth sydd ar gael. Peidiwch ag aros nes bod materion wedi cyrraedd argyfwng, pan fyddwch yn teimlo fwyaf dan bwysau ac yn poeni, nid yw ceisio cyngor nawr yn golygu bod yn rhaid i chi ei gymryd, ond mae’n golygu eich bod yn barod, rhag ofn.”

Mae ‘Cymorth gyda’ch Arian’ yn ymwneud â llawer mwy nag arian, mae’n ymdrin â chymorth hyfforddiant a chyflogadwyedd, cysylltiadau ar gyfer cymdeithasau tai Sir Fynwy, ble i ddysgu mwy am fanciau bwyd, cyllidebu ar gyfer y Nadolig, a grwpiau helpu COVID, a sefydlwyd i ddod â phobl at ei gilydd sydd wedi’u hynysu’n gymdeithasol o ganlyniad i’r pandemig.

Ewch i’r wefan yn Monmouthshire.gov.uk/cy/cyngor-am-arian/ i archwilio’r cymorth sydd ar gael gan y sefydliadau partner niferus dan sylw neu ymwelwch ag un o’r Hybiau Cymunedol am gymorth a chyngor wyneb yn wyneb. Lleolir canolfannau yn Nhrefynwy, y Fenni, Cil-y-coed, Brynbuga, Cas-gwent a Gilwern.  Am fwy o wybodaeth ewch i https://www.monmouthshire.gov.uk/cy/hybiau-cymunedol-a-gwasanaethau-llyfrgelloedd/ neu ffoniwch Ganolfan Gyswllt y cyngor ar 01633 644644.