Skip to Main Content

Gwahoddir preswylwyr Sir Fynwy a’r cyhoedd yn ehangach i rannu eu barn ar ddyfodol cysylltiadau trafnidiaeth Cas-gwent, gydag astudiaeth yn edrych ar nifer o opsiynau trafnidiaeth yn yr ardal leol a’r rhanbarth ehangach. 

Mae Cam 2 presennol Astudiaeth Drafnidiaeth Cas-gwent yn croesawu preswylwyr i roi eu hadborth ar restr fer o opsiynau, gyda’r nod o helpu i ddewis ffordd orau ymlaen. Cynhelir yr ymgynghoriad o 9:00am ddydd Llun 2il Tachwedd 2020 i 5:00pm ddydd Sul 13eg Rhagfyr 2020 ac fe’i cynhelir ar-lein oherwydd y sefyllfa bresennol o ran COVID-19. Nod yr ymgynghoriad rhithwir yw cynnig profiad i breswylwyr a fydd yn debyg i ddigwyddiad wyneb yn wyneb, a bydd pobl yn gallu gofyn cwestiynau dros y we neu dros y ffôn.

Mae Astudiaeth Drafnidiaeth Cas-gwent yn cael ei rhedeg gan Gyngor Sir Fynwy ar y cyd â phartneriaid strategol gan gynnwys Llywodraeth Cymru, y Swyddfa Gymreig a’r Adran Drafnidiaeth, Highways England, Cyngor Dosbarth Coedwig y Deon, Cyngor Sir Swydd Gaerloyw a Chyngor De Swydd Gaerloyw. 

Dywedodd y Cynghorydd Jane Pratt, Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Seilwaith: “Rwy’n falch iawn ein bod yn gallu symud i ail gam Astudiaeth Drafnidiaeth Cas-gwent.  Mae mewnbwn y cyhoedd ar y darn pwysig hwn o waith yn gwbl hanfodol er mwyn helpu i symud ymlaen gyda’r opsiwn trafnidiaeth gorau ar gyfer Cas-gwent, Sir Fynwy a’n hardaloedd cyfagos.  Rwy’n annog preswylwyr i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad ar-lein i wneud yn siŵr eich bod yn gallu dweud eich dweud.”  

I gymryd rhan, gall preswylwyr ymweld â https://virtualengage.arup.com/chepstow-transport-study unrhyw bryd o 9:00am ddydd Llun 2il Tachwedd 2020er mwyn cael gafael ar wybodaeth am yr astudiaeth ac i gael dweud eu dweud. Gellir anfon copi caled o’r llyfryn ymgynghori a’r arolwg adborth allan atoch, gyda chyfeiriad dychwelyd rhadbost ar gyfer unrhyw un nad yw’n gallu cael mynediad i’r digwyddiad ar-lein. Ffoniwch 0117 240 1529 i ofyn am gopi caled.