Skip to Main Content

Mae cyflogwyr yn cael eu hannog i wneud y gorau o gynllun gan y llywodraeth sydd â’r nod o greu cyfleoedd gwaith i bobl ifanc, gan gynnig hyfforddiant ac arweiniad ar draws ystod eang o sectorau ac yn y sector cyhoeddus a’r sector preifat.

Mae rownd gyntaf Cynllun ‘Kickstart’, sy’n rhoi’r arian sydd ei angen ar gyflogwyr i recriwtio a hyfforddi pobl ifanc, yn cau ar y 30ain Hydref. Mae’r lleoliadau chwe mis yn agored i bobl ifanc sydd rhwng 16 a 24 oed, sy’n hawlio Credyd Cynhwysol ac sydd mewn perygl o ddiweithdra hirdymor. Bydd cyflogwyr yn cael cyllid ar gyfer 100% o’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol perthnasol o 25 awr yr wythnos, ynghyd â chyfraniadau Yswiriant Gwladol cyflogwyr cysylltiedig, a chyfraniadau pensiwn cofrestru awtomatig gofynnol y cyflogwyr. Bydd cyllid ychwanegol hefyd i gefnogi pobl ifanc i feithrin eu profiad a’u helpu i symud i gyflogaeth barhaus ar ôl iddynt gwblhau eu rôl ‘Kickstart’.

Nod menter gwerth £2 biliwn Llywodraeth y DU yw creu cannoedd o filoedd o swyddi newydd â chymhorthdal llawn i bobl ifanc ledled y wlad. Mae’n dod wrth i fusnesau a thrigolion barhau i brofi’r heriau a ddaw yn achos y pandemig.  Yn Sir Fynwy, roedd o leiaf 881 o bobl ifanc 18-24 oed di-waith ym mis Mehefin 2020, a 1022 o bobl ifanc 16-24 oed di-waith ar hyn o bryd.

Mae Tîm Cyflogaeth a Sgiliau Cyngor Sir Fynwy yn cynorthwyo i weinyddu’r cynllun ac yn cydlynu ceisiadau cyflogwyr.  Rhagwelir y gallai’r lleoliadau cyntaf ddechrau mor gynnar â mis Tachwedd, gyda chyfleoedd yn cael eu creu cyn belled â mis Rhagfyr 2021.

Dywedodd y Cynghorydd Richard John, yr Aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros bobl ifanc: “Rydyn ni’n mynd drwy un o’r cyfnodau anoddaf ers cenhedlaeth.  Gall fod yn frawychus i bobl ifanc ddechrau ar eu teithiau i fyd gwaith, yn enwedig ar yr adeg heriol hon. Mae’r cynllun ‘Kickstart’ hwn yn rhoi cyfle i’n trigolion ifanc gael eu troed yn y drws a datgloi eu potensial. Byddwn yn annog unrhyw gyflogwr i feddwl am gynnig cyfle gwaith i wneud cais heddiw.”

Ychwanegodd yr Aelod Cabinet dros Arloesi a Menter, y Cynghorydd Bob Greenland:  “I lawer o fusnesau yn y sir, maent wedi gorfod gwneud rhai penderfyniadau anodd dros y misoedd diwethaf. Mae hirhoedledd ein busnesau yn eithriadol o bwysig ac mae’r fenter hon yn rhoi sicrwydd i gyflogwyr allu hyfforddi a datblygu pobl ifanc, a fydd, gobeithio, yn helpu eu busnesau i symud ymlaen.  Os gallech gynnig cyfle gwaith, cysylltwch â ni.”

I gael rhagor o wybodaeth a meini prawf llawn, gall cyflogwyr eu cael yma: https://www.gov.uk/government/collections/kickstart-scheme Mae’r ffurflenni cais i’w gweld yma: https://forms.office.com/Pages/ResponsePage.aspx?id=eQBNLCzFs0uzytjq8ba31RuWMuwIRvVBvhPOnjqGr_9UQUdNNzJXVFUwSUJKU0s3TU9OVVdDWk03Sy4u