Skip to Main Content

Astudiaeth Trafnidiaeth Cas-gwent (WelTAG/WebTAG Cam 2) Digwyddiad ymgynghori â’r cyhoedd

Ar ran Cyngor Sir Fynwy a’u partneriaid strategol yn cynnwys Llywodraeth Cymru, yr Adran Drafnidiaeth, Highways England, Cyngor Dosbarth Fforest y Ddena, Cyngor Sir Swydd Caerloyw a Chyngor De Swydd Caerloyw, rydym yn falch i gyhoeddi lansiad digwyddiad rhithiol ymgynghori a’r cyhoedd 6 wythnos ar 2 Tachwedd 2020, i wahodd adborth ar Astudiaeth Trafnidiaeth Cas-gwent (Weltag/Webtag Cam 2). Mae hon yn astudiaeth trafnidiaeth ar draws y ffin, yn canolbwyntio ar Gas-gwent a’r cysylltiadau thrafnidiaeth ymhellach na’r cylch agosaf gydag astudiaethau ar gyfer y systemau ehangach o amgylch a materion cydnerthedd tymor hirach. Diben cam 2 presennol yr astudiaeth yw edrych ar restr fer o opsiynau, gan helpu i ddewis opsiwn/opsiynau a ffafrir ar gyfer symud ymlaen.

Oherwydd pandemig cyfredol COVID-19 ac yn unol â chyngor y llywodraeth, ni fedrwn gynnal hyn fel ymgynghoriad wyneb i wyneb a rydym felly wedi comisiynu profiad ymgynghori rhithiol fydd mor debyg ag sydd modd i brofiad digwyddiad wyneb i wyneb. I gymryd rhan, edrychwch ar https://virtualengage.arup.com/chepstow-transport-study unrhyw bryd rhwng 9:00am dydd Llun 2 Tachwedd 2020 a 17:00pm dydd Sul 13 Rhagfyr 2020 i gael gwybodaeth am yr astudiaeth a dweud eich barn. Gallwch gyflwyno unrhyw gwestiynau a bydd cyfleusterau sgwrs gwe fyw hefyd ar gael ar yr adegau dilynol i’ch cysylltu gydag aelod o dîm y prosiect.

Dydd Iau 5 TachweddDydd Sadwrn 14 TachweddDydd Iau 19 TachweddDydd Sadwrn 28 TachweddDydd Mawrth 3 RhagfyrDydd Mawrth 8 Rhagfyr
5pm – 7pm10am – noon5pm – 7pm10am – noon5pm – 7pm5pm – 7pm

Os na fedrwch gael mynediad i’r digwyddiad ar-lein, gellir anfon copi caled o’r llyfryn ymgynghori ac arolwg adborth atoch gyda chyfeiriad rhadbost i’w ddychwelyd. Ffoniwch 0117 240 1529 i wneud cais os gwelwch yn dda

Edrychwn ymlaen at glywed gennych.

Tîm Prosiect Arup