Skip to Main Content

Mae Cyngor Sir Fynwy wedi derbyn dyfarniad Aur yng Nghynllun Cydnabyddiaeth Cyflogwyr Amddiffyn. Mae’r wobr newydd yn dangos addewid barhaus y cyngor i drin y rhai sy’n gwasanaethu neu sydd wedi gwasanaethu a’u teuluoedd yn deg.

Mae’r statws newydd yn dilyn cais llwyddiannus i symud o Ddyfarniad Arian i Ddyfarniad Aur. Cafodd y cyngor ei gydnabod am fod yn rhagweithiol wrth ddangos ei fod yn gyfeillgar i’r lluoedd arfog fel rhan o brosesau recriwtio a dethol. Mae’r statws Aur hefyd yn golygu fel cyflogwr, fod Cyngor Sir Fynwy wedi dangos iddo sicrhau bod ei weithlu yn ymwybodol o’u polisïau cadarnhaol at faterion sy’n wynebu pobl sy’n aelodau neu gyn-aelodau o’r lluoedd arfog

Daw’r dyfarniad fisoedd yn unig ar ôl i’r cyngor gadarnhau ei ymrwymiad i weithio gyda’r gymuned lluoedd arfog drwy lofnodi Cyfamod y Lluoedd Arfog. Cafodd y cyfamod ei lofnodi gyda’r pum Cyngor Tref (Y Fenni, Trefynwy, Brynbuga, Cil-y-coed a Chas-gwent), gan wneud Sir Fynwy yr unig awdurdod lleol yn y Deyrnas Unedig lle mae’r prif awdurdod a phob cyngor tref wedi llofnodi’r cyfamod gyda’i gilydd.

Fel rhan o’r gwaith parhaus i gefnogi cymunedau’r lluoedd arfog, bu cydweithwyr yn gweithio gydag ysgolion i godi ymwybyddiaeth o blant y lluoedd arfog, a’r anawsterau addysgol y gallant fod yn eu cael drwy sefydlu rhwydwaith cymorth ar gyfer y lluoedd arfog a’u teuluoedd. Mae hyn yn cynnwys cyfeiriadur gwasanaethau Gwent-gyfan a gynhyrchwyd er mwyn rhoi adnodd i’r Gymuned Lluoedd Arfog sy’n cyfuno’r holl wybodaeth berthnasol mewn un lle.

Mae gan Sir Fynwy Fforwm Lluoedd Arfog gweithredol sy’n cwrdd ddwywaith y flwyddyn ac mae’n cynnwys gwasanaethau statudol, cyrff trydydd sector, elusennau a phartneriaid perthnasol eraill i edrych ar faterion sy’n effeithio ar y gymuned Lluoedd Arfog. Mae gan Gronfa Cyfamod y Lluoedd Arfog £10M y flwyddyn i gyllido prosiectau sy’n cefnogi’r gymuned Lluoedd Arfog, y mae Cyngor Sir Fynwy yn hapus i weithio mewn partneriaeth i’w cyflenwi. Mae’r themâu ar gyfer y prosiectau yn cynnwys:

§  Dileu rhwystrau i fywyd teulu

§  Cymorth ychwanegol ar ôl gwasanaeth ar gyfer y rhai sydd angen help

§  Mesurau i integreiddio cymunedau milwrol a sifilian a galluogi’r gymuned lluoedd arfog i gymryd rhan fel dinasyddion

§  Gwasanaethau gofal iechyd heb fod yn rhai creiddiol ar gyfer cyn aelodau’r lluoedd arfog

Dywedodd y Cynghorydd Laura Jones, Hyrwyddwr Lluoedd Arfog Cyngor Sir Fynwy; “Rwyf wrth fy modd ein bod wedi ennill Dyfarniad Aur am y Cynllun Cydnabod Cyflogwr Amddiffyn. Mae ein hymroddiad parhaus i gefnogi ein cymuned lluoedd arfog a gwneud yn siŵr eu cael eu trin yn deg yn parhau’n flaenoriaeth allweddol i ni. Fe beryglodd yr unigolion hyn eu bywydau i sicrhau y gallwn fyw mewn cymdeithas ddiogel a theg, a’n dyletswydd ni yw sicrhau ein bod yn eu hanrhydeddu yn yr un ffordd.”

Mae mwy o wybodaeth am y gwaith a phrosiectau i gefnogi cydweithwyr lluoedd arfog yn Sir Fynwy ar gael yn: https://www.monmouthshire.gov.uk/armed-forces/