Skip to Main Content

O 6pm heno, bydd ardal Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn dod yn ardal diogelu iechyd lleol estynedig a daw nifer o gyfyngiadau symud newydd i rym.

Gwyddom fod cydymffurfio  gyda’r rheolau sylfaenol wedi llacio ar draws Gwent a bod yr hyn a ddechreuodd fel cynnydd mewn achosion mewn pobl iau yn awr yn lledaenu i bobl hŷn. Gofynnwn i chi fod yn gyfrifol am eich gweithredoedd a pharhau i ddilyn y rheolau.

·         Golchi eich dwylo – a dal i’w golchi’n rheolaidd

·         Gorchuddio eich wyneb – dros eich trwyn a’ch ceg lle mae ymbellhau cymdeithasol yn anodd

·         Creu gofod – aros o leiaf ddau fetr oddi wrth unrhyw un heb fod yn byw yn eich cartref

·         Aros adref – a chael profion os oes symptomau arnoch chi neu rywun arall yn eich cartref

Mae mor syml â hynny.

Os oes gennych unrhyw symptomau coronafeirws, mae’n rhaid i chi gael prawf ac mae’n rhaid i chi a phawb sy’n byw gyda chi hunanynysu ar unwaith.

·         Peswch newydd parhaus

·         Tymheredd uchel

·         Colli blas a/neu arogl

Archebwch brawf yma https://gov.wales/apply-coronavirus-covid-19-test

Os gofynnir i chi hunanynysu, dylech wneud hynny i atal y feirws rhag lledaenu ymhellach. Cofiwch hunanynysu tra’ch bod yn aros canlyniadau prawf.

I gael gwybodaeth fydd yn ateb llawer o gwestiynau, ewch i https://gov.wales/caerphilly-county-coronavirus-lockdown

https://gov.wales/caerphilly-county-coronavirus-lockdown-frequently-asked-questions